Page 81 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 81
6newydd-ddyfodiaid i'w sectorau. O ganlyniad, dylai cyflogwyr gael mwy o fewnbwn i ddatblygu cwricwla. Mae'r llwybrau penodol, sydd angen eu diweddaru i fodloni anghenion cyfredol, yn sectorau TGCh a
Chyfrifiaduron, Busnes a Thwristiaeth.
Cynnig Cwricwlwm
Lletygarwch ac Arlwyo, darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Adeiladu a Gofal, FA yn y Diwydiannau Creadigol, Twristiaeth, Amaeth, Lletygarwch a Rheolaeth ac Iechyd a Gofal, cyrsiau wedi eu halinio â STEM, Twristiaeth Forol, Peirianneg a Thechnoleg Bwyd.
Darpariaeth Lefel A
79
Addasrwydd y Ddarpariaeth sydd ar gael i'w Darparu
Mae cymwysterau'n datblygu'n gyflym ac mae Cymwysterau Cymru, wrth gyflawni ei swyddogaeth reoleiddio, yn craffu'n ofalus ar y rhain. Fel y soniwyd eisoes, mae yna awydd ymhlith darparwyr i wella cydraddoldeb rhwng cymwysterau galwedigaethol ac astudio lefel A traddodiadol. Maes sy'n peri pryder yw'r pwysau a roddir ar sefydliadau gan weithdrefnau asesu allanol i wneud astudio galwedigaethol yn fwy academaidd ei natur. Mae hyn yn anfantais i rai dysgwyr ac unwaith eto’n rhwystr i ymgysylltiad yn y lle cyntaf ac wedyn dilyniant pellach.
Er bod rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi'r newidiadau cadarnhaol mewn dylunio cymwysterau i gymryd 5datblygiadau technolegol i ystyriaeth a'r ôl-troed digidol, mae angen gwelliannau pellach o ran llwybrau 14-19 ac addasrwydd cwricwlwm CA4 i fodloni blaenoriaethau sgiliau. Mae hyn yn cyfeirio'n uniongyrchol at yr awydd i leihau'r pwyslais ar lwybrau academaidd a chanolbwyntio mwy ar baratoi ar gyfer gwaith. Mae hyn yn cadarnhau gofynion cyflogwyr sy'n dweud bod sgiliau meddal yn faes sy'n peri pryder o ran y
Recriwtio
Dywedai pob sefydliad ei fod yn cael anhawster i recriwtio staff addysgu/academaidd â'r casgliad sgiliau a ddymunir. Gyda'r pwyslais cynyddol ar sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, daeth yn broblem recriwtio unigolion gyda'r casgliad sgiliau i gyflawni'r elfennau hyn yn ogystal â meddu ar safon uchel o wybodaeth yn eu maes, maes pwnc neu fasnach.
Ymhlith y meysydd pwnc lle mae'r materion hyn yn fwyaf cyffredin, mae:
Peirianneg, Crefftau Adeiladu, Diwydiannau Creadigol, Cerbyd Modur, Bwyd a Ffermio.
I rai sefydliadau, mae galw hefyd am fwy o staff dwyieithog sy'n gallu darparu meysydd pwnc mwy traddodiadol megis Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Gwaethygir y problemau recriwtio hyn gan y cyflogau isel a gynigir i ddarlithwyr ar bwynt mynediad, a fyddai'n cael incwm uwch pe baent yn gweithio o fewn eu maes yn y sector preifat. Mae hyn yn cael ei wneud yn waeth gan ddiffyg dilyniant gyrfa a diffyg hyfforddiant rheoli o fewn rhai sefydliadau.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...