Page 80 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 80

78
Ar gyfer sefydliadau gwledig mae pellter teithio yn rhwystr sylweddol i ymgysylltiad a gall yn anffodus benderfynu pa gyrsiau a meysydd pwnc y mae dysgwyr yn eu dilyn.
Ymhlith y cyrsiau sy'n gweld dirywiad mewn ymgysylltiad ar lefel ranbarthol, mae: Gweinyddu Busnes, Arlwyo, Gwallt a Harddwch.
Mae cyrsiau poblogaidd yn cynnwys:
Mynediad i Nyrsio, Gofal Anifeiliaid, Adeiladu – lefel 1, Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ymarferwyr TG, Cerbyd Modur, Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon.
Dilyniant Dysgwyr
Dengys tystiolaeth y gall gofynion llythrennedd a rhifedd rhai cyrsiau atal dysgwyr rhag mynd ymlaen ymhellach. Er enghraifft, gall yr angen i gael cymhwyster TGAU yn hytrach na chymhwyster rhifedd a llythrennedd gwahanol, sy'n gysylltiedig â galwedigaeth, atal rhai rhag mynd ymlaen i lefel 3. Mae'n amlwg bod y rhai nad ydynt wedi cyrraedd TGAU yn y meysydd hyn yn cael trafferth i fynd i'r afael â sgiliau uwch sydd eu hangen i gwblhau cymwysterau lefel 3 ac uwch yn llwyddiannus.
Mewn rhai achosion, ceir heriau o ran cydweddu sgiliau a phriodoleddau'r dysgwr â chwrs addas. Mae diffyg gallu academaidd, agwedd neu anogaeth allanol i ddilyn addysg o fath gwahanol i gyd yn rhwystrau rhag gwneud cynnydd. Mae hyn yn cyfateb yn uniongyrchol i'r hyn a elwir yn ddiffyg uchelgais a hyder mewn meysydd galwedigaethol yn bennaf gan ddysgwyr a rhieni.
Adroddir hefyd o ran un sefydliad fod myfyrwyr fel rheol yn gadael pan fyddant yn llwyddo i gael gwaith gyda chymhwyster ar lefel is.
Ar lefel ranbarthol mae'r meysydd pwnc lle mae hyn yn fwy cyffredin yn cynnwys:
Gofal Anifeiliaid, Busnes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, TG, Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon.
Modelau Cyflawni
Hoffai pob sefydliad o fewn y rhanbarth weld mwy o hyblygrwydd yn y dyddiadau cychwyn ar gyfer rhai o'r cyrsiau y maent yn eu darparu. Byddai dull modiwlaidd yn fuddiol; byddai'n creu ymagwedd hyblyg at ddysgu. Yn gysylltiedig â hyn, byddai llawer yn hoffi gweld modelau cyflenwi byrrach a mwy penodol nad ydynt yn cael eu rheoli gan y ffenestri asesu caeth sydd wedi'u pennu gan gyrff dyfarnu. Darperir rhywfaint o hyblygrwydd o fewn dysgu yn y gweithle ond nid yw hyn yn cael ei ymestyn i ddarpariaeth addysg bellach draddodiadol a dylai fod.
Mae darpariaeth ar-lein yn rhywbeth yr hoffai sefydliadau fanteisio mwy arno. Fodd bynnag, mae yna gyfyngiadau a hyd nes y bydd y fformat hwn wedi ei wella, dim ond am swm bychan o'r holl ddarpariaeth y bydd yn parhau i gyfrif. Gallai'r dull hwn gynyddu ymgysylltiad yn sylweddol ar gyfer pob sefydliad, ond yn enwedig y rhai mewn lleoliadau gwledig sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i ymgysylltiad. At hynny, ceir galw gan sefydliadau am ddull mwy cyfunol o ddysgu, yn ogystal â rhannu adnoddau rhwng sefydliadau.
Mae hyd y ddarpariaeth a'r patrymau cyflenwi hefyd yn faes sy'n peri pryder. Ar hyn o bryd, mae'r ffactorau hyn yn creu rhwystrau i ddysgwyr sy'n ceisio dod o hyd i gyfleoedd gwaith a'r profiad hwnnw o'r byd gwaith, y mae cymaint o'i angen. Er enghraifft:
'Lleihau hyd y rhaglenni galwedigaethol i gyd-fynd â blwyddyn academaidd Addysg Uwch lle byddai gan ddysgwyr amserlen lawnach o fis Medi i fis Mai, fel y gellid gwneud yn fawr o'r cyfleoedd gwaith tymhorol.'
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...


































































































   78   79   80   81   82