Page 82 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 82

80
Ymgysylltiad â Chyflogwyr a Phrosesau Mewnol
Mae pob sefydliad yn ymgysylltu â chyflogwyr mewn rhyw ffordd, er bod fformat yr ymgysylltiad hwn yn amrywio. Dywed y rhan fwyaf o sefydliadau, er bod hon yn agwedd bwysig ar eu gwaith bob dydd, y byddent yn hoffi iddo fod yn fwy aml mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm.
Mae gan rai sefydliadau dimau datblygu busnes penodol sydd wedyn yn cael eu cefnogi gan feysydd cwricwlwm unigol sy'n ymgymryd â mwy o ymgysylltu mewn ymgais i ddeall anghenion y diwydiant.
‘Mae fforymau cyflogwyr yn nodwedd o'r meysydd dysgu galwedigaethol ac er bod hyn yn arfer cyffredin, mae'n agenda sy'n datblygu ac mae angen gwaith i ymgysylltu â meysydd twf sy'n dod i'r amlwg, yn arbennig lle mae busnesau bach a chanolig yn gyffredin – yn enwedig y sectorau ynni a pheirianneg o safbwynt y coleg. Eleni, fel rhan o'r cynllunio blynyddol ar gyfer 2017/18, mae pob cyfadran wedi cysylltu â chwmnïau yn y cymunedau busnes perthnasol er mwyn sicrhau bod y cynnig yn ateb eu hanghenion.'
'Rydym yn ymgysylltu â chyflogwyr ar bob lefel yn y sefydliad. Mae gennym Ddirprwy Bennaeth Sgiliau sydd wedi datblygu Strategaeth Ymgysylltu â Chyflogwyr. Mae gan benaethiaid cwricwlwm gysylltiadau agos â chyflogwyr yn eu hardaloedd sgiliau sector, a'u cynghorau sgiliau sector. Rydym wedi datblygu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid i gasglu'r wybodaeth a defnyddio data LMI a PDSR’.
Adroddid yn unfrydol bod ymgysylltu â chyflogwyr yn flaenoriaeth, gyda sefydliadau yn cydnabod lle mae angen gwneud gwelliannau.
'Rydym yn ymgysylltu â chyflogwyr drwy brentisiaethau, hyfforddiant masnachol a datblygu'r cwricwlwm. Mae yna nifer o gyflogwyr ar ein Bwrdd. Mae yna nifer o bartneriaethau allweddol sydd o fudd i brofiad ein dysgwyr. Fe hoffem ni gael mwy o ymgysylltiad â chyflogwyr mewn perthynas â datblygu'r cwricwlwm.'
Mae defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn effeithiol yn rhan annatod o brosesau cynllunio pob sefydliad. Cefnogir hyn gan ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid a chaiff ei yrru gan flaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a PDSR o ran sectorau galw allweddol.
5.2.2 Sefydliadau Addysg Bellach
Ymgysylltiad Dysgwyr
Mae'r gost sy'n gysylltiedig ag astudio cwrs addysg uwch yn cael ei weld fel rhwystr i ymgysylltiad. Mae hyn yn ymwneud â'r ‘ddealltwriaeth gynyddol fod cymwysterau gradd yn creu swm sylweddol o ddyled sy'n rhoi ond ychydig iawn o sicrwydd o gael swydd ag incwm lefel gradd.'
Ymhellach, rhwystr arall yr adroddir amdano yw y nifer fawr o gyrsiau sy'n cael eu cynnig yn llawn amser. Mae hyn yn anffodus yn creu heriau i'r darpar ddysgwyr hynny sydd â chyfrifoldebau ychwanegol megis gofal plant a gwaith. Dywedodd darparwr:
'Mae hyn yn haearnaidd ac anhyblyg tu hwnt - ac nid yw'n gwneud ond ychydig o synnwyr yn economaidd. Mae angen inni agor dysgu i bawb sy'n gallu cyfranogi, os yw hynny'n golygu dysgu o bell, neu ddysgu'n hyblyg yn rhan-amser, neu mewn ffordd gyflymedig, yna dylai darparwyr baratoi ar gyfer hyn.'
Gallai'r materion hyn fod yn ffactorau sy'n cyfrannu at y 4% o ostyngiad yng ngheisiadau UCAS ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Yn ogystal â hyn mae'r gyfran uchel o raddedigion sydd â dyled myfyrwyr na ddisgwylir iddynt byth dalu eu benthyciadau yn ôl.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...


































































































   80   81   82   83   84