Page 83 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 83

81
Modelau Cyflawni
Mae sefydliadau yn credu'n unfrydol y dylai cyrsiau fod yn fwy ymatebol i anghenion myfyrwyr. Dylai hyd cyrsiau a natur y ddarpariaeth fod yn fwy hyblyg a dyfynnid cynnydd mewn cyrsiau rhan-amser, rhaglenni cyflymedig a dysgu o bell a dysgu cyfunol fel y prif ffactorau mewn darpariaeth hyblyg.
Mae galw am gynnydd mewn systemau creadigol i alluogi myfyrwyr i symud i mewn ac allan o raglenni heb gosb. Cyfeiriwyd at ddull America o 'adeiladu gradd o uned i uned' fel enghraifft o arfer da sy'n rhoi llawer o hyblygrwydd i ddysgwyr.
At hynny, dywedir y byddai mwy o gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol (gan gynnwys dysgu drwy brofiad) a mwy o ryddid mewn trosglwyddo credydau rhwng sefydliadau yn caniatáu i ddysgwyr fynychu cyrsiau mewn amryw o leoliadau ac y gallai'r newidiadau hyn ddileu llawer o'r rhwystrau i ddysgwyr sy'n dilyn cwrs addysg uwch.
'Rydym yn gweld posibiliadau twf mewn cyrsiau byrion/blasu/penwythnos a chyrsiau byr a dwys – yn gryno, dysgu hyblyg iawn ym mhob ffordd - o ran hyd, amser, ar-lein, preswyl / aml-lwyfan ac yn y blaen gyda symud rhwng gwahanol ddulliau o ddarparu yn ystod un rhaglen yn dod yn fwy cyffredin.'
Addasrwydd y Ddarpariaeth sydd i gael ei Darparu
Ar y cyfan, mae sefydliadau yn teimlo bod eu darpariaeth hwy yn addas i'r diben. Dywedir bod y lefel uwch o hyblygrwydd sy'n dod yn sgil bod yn gorff dyfarnu yn caniatáu i'r cynnig gael ei gynllunio a'i ddiwygio i ateb gofynion sy'n newid.
Mesurir effeithiolrwydd y ddarpariaeth a gynigir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
‘Rydym yn gwerthuso ein heffeithiolrwydd mewn amryw o ffyrdd e.e. perfformiad yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, ein perfformiad yn erbyn meincnod yn Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr, a chymariaethau gyda sefydliadau cyffelyb o ran lefelau busnesau sy'n cael eu cychwyn gan raddedigion.’
' ...seiliedig ar systemau sicrhau ansawdd effeithiol sydd wedi eu datblygu dros nifer o flynyddoedd a'u mireinio yng ngoleuni fframweithiau a chanllawiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.'
Dywedodd un sefydliad, er bod eu cynnig yn cael ei gefnogi gan eu partneriaid, cyflogwyr ac undebau, y byddent yn hoffi datblygu amrywiaeth ehangach o fodiwlau sydd â gwerth credyd o lai na 60.
Cynnig Cwricwlwm
Mae sefydliadau yn nodi bod eu cynnig yn cael ei yrru gan wybodaeth am y farchnad lafur leol, adborth cyflogwyr, blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol ac anghenion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Fel cyrff dyfarnu cymhwysir y ddarpariaeth i ateb yr anghenion newidiol hyn gyda'r canlyniad bod y cynnig yn ddynamig ac yn addas i'r diben.
Dywedodd un sefydliad ei fod yn cymryd camau gweithredol i ddatblygu ei gynnig mewn perthynas â Phrentisiaethau Gradd Lefel Uwch. Fodd bynnag, mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o fanylion sut mae'n bwriadu ariannu'r rhain.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Dadansoddiad o’r Ymgynghoriad...


































































































   81   82   83   84   85