Page 65 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 65
63
gwahaniaeth i fwynhad ymwelwyr a'u profiad o'n gwlad. Mae athrawon, darlithwyr a chynghorwyr gyrfa yn anwybodus am y cyfleoedd sydd ar gael i bobl yn y diwydiannau Lletygarwch a Thwristiaeth. Yn hytrach na chanolbwyntio ar baratoi pawb i gyflawni swyddi mewn sectorau eraill, dylid amlygu a hybu ein diwydiannau ni yn gadarnhaol i bobl ifanc.'
Mae'r sector yn ddibynnol iawn ar waith tymhorol a pharodrwydd pobl i deithio, ac mae'r hinsawdd economaidd heriol yn gwneud y broblem hon yn waeth. Mae hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar fusnesau i gynnig gwasanaeth am gost teg a pharhau i wneud elw. Yn gysylltiedig â hyn, adroddai rhai busnesau fod marchnata yn her iddynt gyda'i effeithiolrwydd yn allweddol i hyrwyddo eu busnes a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.
'Marchnata a chodi ymwybyddiaeth brand. Nid oes llawer o bobl yn gwybod am y gwasanaeth yr wyf yn ei ddarparu ac mae lledaenu'r gair yn her wirioneddol fawr.'
Y niferoedd llai o ymwelwyr a lleihad yn y galw ymhlith defnyddwyr oedd yn cael ei ddyfynnu amlaf fel ffactor allweddol sy'n sbarduno newid a galw i fusnesau. Mae ffactorau allanol yn effeithio'n fawr ar hyn, megis cysylltiad rhyngrwyd cryf a seilwaith cludiant sy'n addas i'r diben. Nododd busnes yn y Canolbarth fod:
'Y cysylltiadau ffyrdd yn wael a chludiant cyhoeddus yn gyfyngedig. Mae signal ffôn symudol yn amrywio'n sylweddol ar draws y rhanbarth gan effeithio'n negyddol ar allu ymwelwyr i ganfod ac ymgysylltu â darparwyr lleol. Diffyg llwyr darpariaeth gyfathrebu gydlynol ar gyfer cwsmeriaid modern. Cysylltiadau ffyrdd gwael a chludiant cyhoeddus cyfyngedig.'
Ffactorau allanol eraill sy'n cael effaith andwyol ar y busnesau hyn yn dylanwadu cosatu cynyddol megis TAW ac ardrethi busnes. Mae hyn yn dwysau'r pwysau i gynnig gwasanaeth sy'n bodloni galw defnyddwyr a gwneud elw rhesymol yr un pryd.
Mae ansicrwydd ynghylch Brexit hefyd yn peri pryder mawr i lawer.
Rolau anodd i recriwtio ar eu cyfer
Dywedodd mwyafrif o'r busnesau a holwyd eu bod yn cael anhawster i recriwtio ar gyfer rolau penodol. Nodir y rolau hynny isod:
Micro/Small
Cogyddion Rheolwyr
Staff Gweinyddol Hyfforddwyr Chwaraeon Dŵr Arlwyo, Cadw Tŷ, Ochr y Pwll Staff Glanhau/Cadw Tŷ Staff Blaen y Tŷ Derbynyddion
Cynnal a Chadw
Canolig Mawr
Swyddi Rheoli
Swyddi Lletygarwch
Cogyddion
Staff Blaen y Tŷ
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau