Page 63 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 63

3.6 Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
Mae sector Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu yng Nghymru yn cwmpasu holl weithgareddau twristiaeth, lletygarwch, hamdden a manwerthu o fewn y rhanbarth ac mae o bwys sylweddol o ran y niferoedd sy'n cael eu cyflogi yn ogystal â'r gallu i ddenu mewnfuddsoddiad a gwariant.
Erbyn 2020 rhagwelir y bydd y gweithlu lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru yn tyfu o 4,700 o bobl. Gan gymryd i ystyriaeth y galw am weithwyr newydd i gymryd lle y gweithwyr presennol, mae hyn yn golygu y bydd angen recriwtio 35,900 o bobl i'r sector dros y saith mlynedd nesaf.50
Dywed yr ystadegau diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru fod y sectorau Twristiaeth Hamdden a Lletygarwch yn rhanbarthol yn cyflogi 41,400 o unigolion, sy’n gynnydd o 29% ers 2006.
Y sector Manwerthu yw cyflogwr mwyaf y sector preifat yn y DU; mae'n cyflogi tua 10% o gyfanswm y gweithlu. Yr is-sector mwyaf o ran cyflogaeth yw gwerthu a gwasanaethu cwsmeriaid, sy'n cyfrif am oddeutu hanner y cyfanswm swyddi.
Mae'r sector yn cyflogi mwy o ferched na dynion, ac mae hyn yn rhannol oherwydd yr hyblygrwydd o fewn y sector o ran cyflogaeth rhan-amser a merched sy'n cael y rhan fwyaf o'r cyfleoedd cyflogaeth rhan-amser.
Erbyn 2017, dengys ymchwil y bydd 9,000 o swyddi manwerthu newydd wedi cael eu creu yng Nghymru ers 2007, tra bydd y galw cyfnewid yn gymaint â 57,000 gan arwain at y cyfanswm gofynnol o oddeutu 66,000 o bobl.
Pryder sylweddol i'r sector manwerthu yw'r gallu i gaffael y doniau a ddymunir ar gyfer rheolwyr manwerthu'r dyfodol. Efallai na fydd y cynlluniau (neu'r arferion) blaenorol o ddyrchafu o'r tu mewn yn hyfyw yn y dyfodol. Bellach mae pobl ifanc, fyddai o'r blaen efallai wedi gweithio eu ffordd i fyny mewn manwerthu yn mynd ymlaen i addysg uwch – gwelir hyn yn newid allweddol i batrymau recriwtio manwerthu. 51
3.6.1 Tystiolaeth Cyflogwyr
Recriwtio a Chadw Staff
Mae recriwtio i'r sector yn her, a theimlad cyflogwyr yw bod y mater i'w briodoli'n bennaf i’r ffordd mae pobl yn gweld y sector a sut y caiff ei bortreadu i ddysgwyr a'u rhieni. Nid yw dysgwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael drwy ddilyn gyrfa yn y sector. Mynegodd arbenigwyr yn y diwydiant a chyflogwyr mai'r sector hwn yw’r diwydiant mwyaf amrywiol ac y dylid hyrwyddo hyn yn arbennig drwy ysgolion.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Nid yw fframweithiau prentisiaeth yn addas i'r diben ac mae angen eu halinio â sector aml-sgiliau sy’n gallu addasu i anghenion diwydiant. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynnig yn un uchelgeisiol ac mae'n rhoi'r argraff fod y sector yn un sy'n ddiflas, gweithio yn ystod oriau anghymdeithasol yn unig, heb ddilyniant gyrfa na llwybr clir.
Mae diffyg parodrwydd newydd-ddyfodiaid i'r sector (yn arbennig y rhai sydd newydd adael yr ysgol) ar gyfer gwaith yn peri pryder sylweddol. Mae sgiliau meddal yr unigolion hyn yn ddifrifol wan, fel y mae eu sgiliau cadw amser, parch, parodrwydd i weithio a rhyngweithio sylfaenol. Mewn sector sy’n ddibynnol iawn ar adeiladu perthynas yn gyflym a darparu gwasanaeth, mae hon yn broblem ddifrifol. Gellid gwella hyn drwy gynnig profiad gwaith, ac er bod diwydiant yn ei gynnig, mae'r cyfyngiadau sydd wedi eu sefydlu yn ei gwneud yn rhy anodd i ysgolion fanteisio ar y cyfle. Mae codi proffil y sector a'r cyfleoedd ar gyfer dilyniant yn hanfodol i lwyddiant y diwydiant.
50 Pobl yn Gyntaf. Cyflwr y genedl 2013: Crynodeb Gweithredol Cymru
51 https://www.careerswales.com/en/tools-and-resources/job-trends/retail/
61
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   61   62   63   64   65