Page 60 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 60

58
Heriau a Gyrwyr Newid a Galw
Ar lefel busnesau bychain a chanolig, mae'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu busnesau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y rhanbarth yn troi o amgylch anawsterau recriwtio a chyllid. Mae'r ddwy broblem yn cyd-fynd yn agos â’i gilydd i lawer o bobl, gyda gostyngiadau mewn cyllid yn gwneud hyfforddi staff presennol a denu'r newydd-ddyfodiaid newydd a ddymunir i'r sector yn fwy o broblem.
Ffactor nodedig y sonnir amdano gan lawer o fusnesau yw'r gofyn a'r pwysau ar fusnesau i ddarparu gwasanaeth cynyddol well gyda llai o arian a ffioedd uwch;
'Cynnydd mewn costau gweithredu a chostau staff, ond cynnydd bach drwy Gomisiynwyr Awdurdodau Lleol. Llai o arian i fuddsoddi mewn hyfforddiant staff a chreu llwybrau gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol'
Mynegwyd pryder hefyd ynghylch y gofyniad i gofrestru pob gweithiwr gofal cartref erbyn 2020, fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sydd wedi cofrestru feddu ar gymhwyster perthnasol gofynnol. Cynhelir ymgynghoriad llawn ar y cymwysterau gofynnol ar gyfer y grw^ p hwn fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2017. Y pryder gan rai cyflogwyr yw y bydd y gofyniad ychwanegol hwn yn rhwystr pellach i recriwtio a chadw staff. Mae angen i'r galw gan rai busnesau a'r diwydiant gael gwrandawiad, sef mai sgiliau sydd eu hangen ac nid cymwysterau achrededig o reidrwydd. Rhaid nodi, fodd bynnag, bod cofrestru'r gweithlu sydd i ddod yn rhan o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac yr ystyrir ei fod yn ffordd o gynyddu cymhwysedd a gwella amddiffyniad i'r rhai sy'n gweithio gyda rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Ar lefel busnes mawr nodwyd heriau tebyg ond gyda mwy o bwyslais ar gyflawni targedau Llywodraeth Cymru o dan graffu cynyddol a chyllidebau sy'n cael eu gwasgu. Tynnwyd sylw hefyd at y pwysau i wella’r gwasanaethau a gynigir mewn ardaloedd gwledig ac yn ei dro ddenu staff â'r sgiliau priodol i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Yn ategu hyn roedd yr angen i reoli gweithgaredd heb ei gynllunio a pharhau i gynnal gwasanaeth tra'n gweithio tuag at fodel gofal seiliedig yn y gymuned o fewn y gyllideb.
Roedd y prif ysgogwyr newid a galw a nodwyd yn ymwneud â defnydd cynyddol o dechnoleg a'r defnydd effeithiol ohoni i gwrdd â heriau gwahanol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a galwadau cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio. Roedd cyrraedd targedau a newidiadau mewn deddfwriaeth hefyd yn cael eu dyfynnu gan lawer, gyda'r ardoll brentisiaeth yn destun pryder ymhlith rhai.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   58   59   60   61   62