Page 57 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 57
55
Gwelir y gweithlu sy'n heneiddio mewn iechyd a gofal cymdeithasol fel ffactor allweddol gyda chyfradd gadael/ymddeol uchel a waethygir gan y nifer cyfyngedig o newydd-ddyfodiaid ifanc i'r gweithlu i wrthweithio'r golled o staff cymwysedig a phrofiadol.
Ymhlith y ffactorau sy'n cyfrannu at y nifer isel o newydd-ddyfodiaid mae:
• Apêl y sectorau fel cyflogwyr, canfyddiadau gwael o ran cyflog/amodau, ac ati. Ynghyd â hyn ceir diffyg ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o swyddi o fewn y sectorau.
• Diffyg ymwybyddiaeth o'r llwybrau dilyniant a mynediad i sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
• Ystyrir bod 'ffiniau proffesiynol' yn cyfyngu ar fynediad at gyfleoedd.
• Mae asesiadau sgiliau hanfodol yn rhwystr posibl i recriwtio unigolion i brentisiaethau sy’n seiliedig
ar ofal, yn enwedig y rhai sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur ac unigolion nad oedd ganddynt ddiddordeb
efallai mewn addysg o'r blaen.
• Mae angen mynd i'r afael â'r camsyniad bod rhaid i unigolion fod dros 18 mlwydd oed i weithio yn y
sector gan gynnwys mwy o ddealltwriaeth o'r rolau a'r gweithgareddau y gellir ymgymryd â hwy.
Mae telerau contractio a chyflog hefyd yn creu problemau sylweddol o fewn y sector. Yn y sector iechyd, mae anghysondebau o ran y cyfraddau cyflog ar gyfer Prentisiaethau yn creu heriau i fyrddau iechyd ac maent yn cael effaith negyddol ar y gallu i recriwtio a hefyd ar ysbryd y staff yn fwy cyffredinol. At hynny, mae dibyniaeth ar staff asiantaeth a locwm ar gyfraddau uchel o dâl yn llesteirio'r gallu i recriwtio staff eraill i rai swyddi. Mae hyn hefyd yn effeithio ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer recriwtio Prentisiaid.
Gall telerau ac amodau o fewn y sector iechyd yn aml gael eu gweld fel rhai gwell na'r rhai o fewn gofal cymdeithasol. Mae hyn yn achosi i weithwyr cefnogi gofal cymdeithasol symud i'r sector iechyd, unwaith y byddant wedi ymgymhwyso, gan ychwanegu pwysau ar y sector gofal cymdeithasol.
Addasrwydd y Sgiliau sy'n cael eu Darparu
Mae hyfforddiant yn y gweithle yn cael ei ystyried yn hanfodol i ddatblygiad y sector, nid yw dysgu yn y dosbarth ar ei ben ei hun yn addas i'r diben yn arbennig o ran gofal yn y cartref. At hynny, gwelir sgiliau ehangach, gwerthoedd a chymwyseddau craidd yn bwysicach na chymwysterau achrededig mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae angen amlwg am hyn yn parhau o ran rheoleiddio proffesiynol a chydymffurfio â rheoliadau.
Mae rhagor o dystiolaeth yn dangos bod yr hyfforddiant sydd ar gael yn ddibynnol iawn ar leoliad daearyddol. Mae hyn yn cael ei wneud yn waeth gan ddiffyg y cyfleoedd e-ddysgu o bell o ansawdd da sydd ar gael a darpariaeth ddysgu hyblyg, sef un sy'n cynnig dysgu rhan-amser ar wahanol adegau o'r dydd, a nodwyd o fewn rhai meysydd proffesiynol. Ymhellach, mae trefniadau rhanbarthol yngly^ n â lleoli dysgwyr o fewn y system gofal iechyd yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio rhai darparwyr.
Mae'r cymwysterau a'r cyrsiau a gynigir i bobl sy'n dymuno datblygu eu gyrfa mewn gofal wedi bod yn destun adolygiad gan Gymwysterau Cymru. Croesawyd y canfyddiadau gan Gofal Cymdeithasol Cymru a'r sector ehangach fel rhai sy'n amlygu heriau allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy, sef:
• effeithiolrwydd y modelau presennol o asesu wrth benderfynu ar wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr;
• gwerth rhai cymwysterau, yn arbennig y cymwysterau hynny a ddilynir gan ddysgwyr 14-16 mlwydd oed;
• y graddau yr oedd cymwysterau yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i addysg uwch;
• yr ymdriniaeth â rhai agweddau allweddol ar ddysgu ar gyfer meysydd gwaith gwahanol, er enghraifft mewn
perthynas â gofal dementia, gofal cartref a gwaith chwarae yng nghyd-destun gofal plant; a'r
• graddau yr oedd cymwysterau yn paratoi dysgwyr yn effeithiol ar gyfer gweithio mewn gwlad ddwyieithog.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau