Page 55 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 55

53
Gofal Cymdeithasol
Yn Ne-orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru:
• Mae tua 23,700 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol,
• Mae 3,277 yn gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant,
• O 2020, bydd yn ofynnol i oddeutu 5,900 o weithwyr gofal cartref gofrestru gyda chymwysterau penodol,
• Ym maes gofal cymdeithasol y mae 1 o bob 5 prentisiaeth – hynny yw 2,660 o bobl,
• Mae 541 sefydliad yn y sector preifat a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau gofal,
• Gall 14% o'r gweithlu gofal cymdeithasol siarad Cymraeg, o gymharu â 24% o'r boblogaeth yn gyffredinol,
• Buddsoddir £500 miliwn mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn,44
• Mae yna 800 o swyddi yn wag mewn gofal cymdeithasol.
Mae gofal cymdeithasol yn diogelu ac yn amddiffyn plant ac oedolion o bob oed, a allai fod mewn perygl o niwed oherwydd eu cyflwr bregus. Mae'n helpu pobl i fyw eu bywydau yn gyfforddus, yn enwedig y bobl hynny sydd angen rhywfaint o gymorth ymarferol a chorfforol ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o ddiwygiadau deddfwriaethol gyda'r nod o drawsnewid y gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn ac felly y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn rhoi mwy o bwyslais ar weithwyr proffesiynol yn gwrando er mwyn deall yn well "Beth sydd o Bwys" i unigolion a'u gofalwyr, a all fod angen gofal a chymorth neu amddiffyn rhag niwed posibl. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn golygu y bydd mwy o weithwyr yn cael eu rheoleiddio ac yn gymwysedig, gan wella ymhellach ansawdd y cymorth a ddarperir. Mae hyn yn cynnwys oddeutu 5,900 o weithwyr cartref (gofal cartref) yn y rhanbarth hwn.
Mae'r sector yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth gyda gweithlu amcangyfrifedig o tua 23,700 o weithwyr. Mae'r gweithwyr hyn wedi eu lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol, fel y nodir yn y tabl isod:45
Lleoliad gofal cymdeithasol yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru
Rheolaeth a Chymorth Canolog Gwaith Cymdeithasol
Gofal Cartref
Gofal Preswyl
Gwasanaethau Dydd a Chymunedol Cymysg*
Cyfanswm
Amcangyfrif o gyfanswm nifer y staff
800 2,100 5,900 7,500 3,100 4,200 23,700
45 46
Data o Niferoedd staff gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ynghyd â data o gasgliad data Rhaglen Ddatblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol sy'n gweithio i wasanaethau a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   53   54   55   56   57