Page 33 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 33

31
Parodrwydd Newydd-ddyfodiaid i'r Sector ar gyfer Gwaith
Roedd dros hanner y cyflogwyr a holwyd yn dweud nad yw newydd-ddyfodiaid i'r sector sydd newydd adael yr ysgol neu'r coleg yn barod ar gyfer gwaith. Mae llawer o gyflogwyr yn ceisio lleihau'r tebygolrwydd o gyflogi unigolion o'r fath drwy broses recriwtio sy'n drwyadl ac wedi ei chynllunio'n benodol i adnabod y nodweddion hyn.
Y sgiliau y dywedir yn fwyaf cyffredin eu bod yn gysylltiedig â bod yn barod ar gyfer gwaith i’r cwmnïau hyn yw sgiliau meddal, sgiliau llythrennedd a rhifedd ac etheg waith gref.
‘Penderfyniad, etheg waith iawn a sgiliau sylfaenol gwell o lawer (llythrennedd, rhifedd a sgiliau cyfathrebu), felly cyfuniad o sgiliau sylfaenol a diwylliant.’
Mae'r ffactorau sy'n cyfrannu i'r materion hyn yn cynnwys diffyg profiad gwaith sydd ar gael i'r gweithwyr newydd hyn tra byddant yn dysgu, a wneir yn waeth wedyn gan natur y ddarpariaeth a gynigir mewn ysgolion a cholegau - gyda pheth ohono heb fod yn addas i'r diben nac yn ddigon arbenigol. O ganlyniad, mae rhai cyflogwyr yn ymroi i hyfforddi'n fewnol;
‘Gall unigolion heb brofiad gwaith fod yn brin o rai o’r sgiliau meddal. Oherwydd natur ein siop beiriannau, mae hyfforddiant mewnol yn angenrheidiol gyda cholegau ddim yn cynnig hyfforddiant sy’n benodol i bob maes yn y sector peirianneg. Mae’r canolbwynt yn tueddu i fod ar y sgiliau y gellir eu haddysgu hawsaf, h.y. dim angen adnoddau costus.’
Mae tystiolaeth o'r grwpiau clwstwr hefyd yn awgrymu bod yna fwlch diwylliannol rhwng yr amgylchedd addysg a'r gweithle, gyda newydd-ddyfodiaid yn cael trafferth i ymaddasu i'r oriau hirach a'r lefelau uchel o graffu. Tynnwyd sylw at hyn fel maes o gystadleuaeth gyda rhai gwledydd yn cael amserlenni addysgol hirach a mwy dwys.
Rhifedd, Llythrennedd a Sgiliau TGCh
Teimlai yn agos i chwarter o'r rheiny a holwyd nad oedd eu gweithlu yn meddu ar y sgiliau rhifedd, llythrennedd a TGCh yr oedd arnynt eu hangen i gyflawni eu swyddi;
‘Mae hyd yn oed cyflogeion ar lefel gradd yn dod i mewn gyda sillafu, gramadeg ac atalnodi gwael, yn enwedig o’u cymharu â gweithwyr tramor y mae Saesneg yn ail iaith iddynt! A sôn am rifedd, does yna neb bron o dan 35 sy’n gallu ymdopi â rhifyddeg pen syml, heb sôn am ddeall cymarebau yn iawn, canrannau, gweithio allan ymylon ac yn y blaen. Mae’n rhaid inni ddysgu mathemateg sylfaenol i’n gweinyddwyr yn eu misoedd cyntaf yma.’
Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos, er bod rhai cyflogwyr yn dweud bod eu gweithlu yn meddu ar y cymhwysedd a ddymunir mewn rhifedd, llythrennedd a TGCh, fod yna enghreifftiau lle mae lefel eu cymhwysedd yn dibynnu i raddau helaeth ar lefel cyrhaeddiad academaidd yr unigolyn.
Mae'r cwmnïau nad ydynt yn sôn am brinder o gwbl o ran cymhwysedd yn dweud bod ganddynt weithdrefnau recriwtio caeth sy'n sicrhau bod y sgiliau hyn gan yr unigolyn hyd at y lefel a ddymunir.
‘Cael sicrwydd drwy weithdrefnau recriwtio detholiadol sy’n mynnu safon ofynnol o lythrennedd, rhifedd a TGCh yn ôl y swydd. Bydd y prentisiaid yn dysgu’r sgiliau hyn o fewn eu fframweithiau, a, lle bo angen, byddwn yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon sy’n ofynnol.’
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau'r Sectorau


































































































   31   32   33   34   35