Page 18 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 18

✓ Dros 8,000 o swyddi unigryw wedi'u
hysbysebu yn 2024 yn Ne-Orllewin Cymru
✓ Mae llawer o weithwyr yn dweud eu bod
yn cael boddhad o'r gwaith ym maes
Gofal Iechyd
✓ Mae'r Gymraeg a sgiliau digidol yn bwysig
i'r sector
✓ Llwybrau prentisiaeth gradd ar gael
✓ 21.8% i ymddeol yn ystod y 10 mlynedd
nesaf (y nifer sy'n dechrau yn y maes o
ran 16-24 oed ar hyn o bryd yw 8.2%)
✓ Cyfleoedd enfawr i ddynion fynd i mewn
i'r sector, ar hyn o bryd dim ond 23% sy'n
ddynion
Addysg Uwch
Lefel 2:
Cynorthwywyr Nyrsio, Gweithwyr Gofal,
Gofal Plant, Cynorthwywyr Addysgu
Lefelau 3-4:
Uwch-Weithwyr Gofal, Staff Ambiwlans,
Optegwyr Dosbarthu, Dosbarthwyr
Deunydd Fferyllol, Gweithwyr Chwarae,
Gweithwyr Lles
Gradd Baglor:
Llwybrau prentisiaeth gradd ar gael
Nyrsio, Ymarferwyr Cyffredinol,
Parafeddyg, Ffisiotherapyddion,
Maethegwyr, Gwyddorau Chwaraeon,
Iechyd Meddwl, Fferyllydd, Radiograffwyr
O ran cyflogaeth, dyma'r sector mwyaf yn y rhanbarth gydag ymhell dros
45,000 yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd ac mae'r ffigwr hwn yn cynyddu'n
barhaus. Yn ogystal, mae llawer o lwybrau addysgol ar gael, nifer
ohonynt yn cael eu hariannu ar eich cyfer lle gallwch ddysgu wrth i chi
weithio heb orfod cael dyled myfyriwr fel oedolyn.
Gwaith boddhaol ac ystyrlon?
Yn syml, mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yrfa werth chweil. Mae'r
mwyafrif helaeth o weithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn
hapus yn eu rolau, oherwydd bod eu gwaith yn ystyrlon ac yn cael effaith
ac mae hynny'n rhywbeth na all arian ei brynu.
Fodd bynnag, mae manteision mawr eraill yn y sector hwn, mae yna
lwybrau addysgol a ariennir a all ddarparu cyflogau uchel a gwaith
boddhaol. Nid yw dechrau yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn
gyfyngedig, i'r gwrthwyneb, mae'n gyflwyniad ardderchog i yrfa hirdymor
yn y diwydiant gofal iechyd lle gallwch symud ymlaen i lefel uwch. Er
enghraifft, mae llawer o bobl yn gweithio fel gofalwyr cyn trosglwyddo i
rolau nyrsio neu reoli; mae rhai hyd yn oed yn mynd i ysgol feddygol ac yn
dod yn feddygon.
Nid yw'n ymwneud â Meddygon, Gofalwyr a Nyrsys yn unig
Pa bynciau ddylwn i geisio rhagori ynddynt?
Bydd llwyddiant yn y pynciau isod yn eich rhoi
mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa yn y sector hwn.
Bydd sgiliau Cymraeg / amlieithog da yn fanteisiol i
chi yn y sector hwn.
Mae yna gyfoeth o sgiliau eraill sydd eu hangen ym
maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn gwirionedd.
✓ Gwyddonwyr, Biolegwyr, Gwaith Labordy
✓ Peirianwyr - Diagnostig Cleifion (gweithredu a
ffurfweddu peiriannau) hyd at Reoli a Chynnal a
Chadw Adeiladau
✓ Gwasanaethau Digidol – Monitro Cleifion, Monitro a
Datblygu Apiau, TG a Chyfrifiadureg, Dadansoddi
Data, Roboteg, datblygu Realiti Rhithwir ar gyfer
hyfforddiant diogel a gwell gofal i gleifion
✓ Ymchwil – Gwasanaethau Tystiolaeth, rolau
Ymgynghorol
✓ Gwasanaethau Gwyddonol a Gwyddorau Bywyd
✓ Gwasanaethau Cymorth, Adnoddau Dynol, Cyllid,
Rheoli ac ati
Saesneg / Cymraeg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Beth mae hyn yn ei gynnig i mi?
Yn gryno, mae llawer o fanteision o ymuno â'r sector hwn megis:
✓ Helpu eraill a gwella eich sgiliau craidd sylfaenol
✓ Gyrfaoedd y mae galw mawr amdanynt yn ein rhanbarth – llawer o
gyfleoedd a swyddi
✓ Cyfleoedd prentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau gradd
✓ Swyddi am oes gydag opsiynau dilyniant gwych
✓ Hawdd dechrau arni gyda chyllid i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa
✓ Ystod eang ac amrywiol o swyddi ar gael
Beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, gofalu, nyrsio, rheoli,
llawfeddygaeth, gwyddorau, peirianneg, dadansoddeg neu
gyfrifiadureg, mae swyddi boddhaol i chi ym maes Iechyd a Gofal
Cymdeithasol.
Mae gan Dde-Orllewin Cymru rai o'r prifysgolion a'r colegau gorau yn y
DU ar gyfer llwybrau hyfforddi ac addysg i'r sector hwn.
Mwy o resymau dros ddewis Iechyd a
Gofal Cymdeithasol
Beth sydd dan sylw?









   16   17   18   19   20