Page 20 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 20
Trafnidiaeth a Logisteg
Gyda mwy o ddefnyddwyr yn newid i siopa ar-lein, mae rhwydweithiau
trafnidiaeth a dosbarthu yn datblygu'n gyflym.
Ar hyn o bryd mae galw mawr am yrwyr (Cerbydau Nwyddau Trwm,
Faniau, Peiriannau, Trafnidiaeth ac ati). Hefyd, mae galw mawr am
grefftau warws a logisteg. Mae galw mawr hefyd am weithredwyr
trafnidiaeth gyhoeddus.
Risgiau posibl i rolau mwy traddodiadol yw awtomeiddio, ond gellid
ystyried hyn hefyd fel cyfle cyffrous i weithwyr newydd sy'n dod i mewn i'r
sector. Mae dronau eisoes yn dosbarthu bwyd mewn rhannau o Loegr.
Casglu a phacio awtomataidd mewn warws (Amazon). Felly, bydd ffocws
dysgu ar y sgiliau mwy technegol a logistaidd hyn yn werthfawr ar gyfer y
dyfodol hirdymor yn y sector hwn sy'n tyfu ac esblygu.
Bydd cyfleoedd y Porthladd Rhydd hefyd angen arbenigwyr mewn
rhwydweithiau dosbarthu byd-eang, llongau a masnach ryngwladol.
Manwerthu
Mae rhai agweddau ar fanwerthu yn cael eu cynnwys yn yr
Adran Lletygarwch o'r adroddiad hwn.
Oherwydd y newid tuag at siopa ar-lein, mae manwerthu
mewn siopau cadwyn ar y stryd fawr yn gweld gostyngiad
mawr mewn siopau nwyddau nad ydynt yn hanfodol.
Er nad yw'n newyddion gwych i fanwerthwyr y stryd fawr,
mae hwn yn gyfle gwych i fanwerthwyr annibynnol sy'n
gallu apelio at y farchnad leol a ffynnu ar y stryd fawr lle
mae siopau cadwyn mwy yn cael trafferth, ac yn cau
llawer o leoliadau a newid i fasnachu mwy ar-lein.
Gyda siopa ar-lein mor hawdd nawr, gall manwerthwyr
digidol fanteisio ar y farchnad ar-lein, ac mae'r sector
hwn felly yn entrepreneuraidd.
Mae cynnydd mewn swyddi manwerthu bwyd,
archfarchnadoedd a systemau dosbarthu bwyd, er wrth i
awtomeiddio ddechrau dod yn fwy amlwg, gall y swyddi
warws hyn weld dirywiad a newidiadau o ran
cymhwysedd sgiliau.
Gwaith Ariannol a Phroffesiynol
Mae'r sector yn cael deffroad digidol, bancio agored, Fin Tec, ac
ati felly mae llawr o gyfleoedd i fathemategwyr ac arbenigwyr
cyfrifiadurol.
Mae llawer o wasanaethau'n dod yn opsiynau ar-lein fel
cyfreithwyr, cyngor ariannol ac ati, sydd wedi arwain at lai o'r
galwedigaethau hyn yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae galw mawr
am gaffael, caniatâd, datblygu cyfreithiol a chyfraith
amgylcheddol. Felly, mae'r sector yn parhau i fod yn un cryf i
ddechrau gyrfa.
Sectorau eraill – Penawdau