Page 21 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 21

Gwallt a Harddwch
Mae nifer uchel o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyfer y sector
hwn bob blwyddyn, mae'n hynod boblogaidd, ond mae hyn
yn golygu ei fod yn sector cystadleuol iawn. Fodd bynnag,
byddwch yn dysgu rhai sgiliau craidd sylfaenol sydd eu
hangen ar gyfer pob sector, megis gwasanaeth
cwsmeriaid, cynllunio a datrys problemau, gwaith tîm,
creadigrwydd ac ati.
Y Diwydiannau Creadigol
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis y llwybr hwn, wrth i Dde-
Orllewin Cymru dyfu ei ofod creadigol. Fodd bynnag, ar
hyn o bryd nid yw'r niferoedd swyddi a'r diwydiannau
creadigol sydd ar gael ar lefel uchel eto yn lleol.
Peidiwch â gadael i hynny eich atal, bydd dysgu o fewn y
sector hwn yn rhoi sgiliau craidd gwych i chi y mae
modd eu trosglwyddo fel: cyfryngau, gwerthu a
marchnata, meithrin hyder, rheoli, gwaith tîm a datrys
problemau, yr holl sgiliau y mae cyflogwyr o bob
diwydiant yn chwilio amdanynt.
Mae'r Egin yng Nghaerfyrddin wedi creu llawer mwy o
swyddi yn y sector hwn dros y blynyddoedd diwethaf,
mae llawer o'r rolau hyn ym maes peirianneg
gyfrifiadurol
Addysg
Bydd angen addysg ar y genhedlaeth nesaf ac
mae galw mawr am athrawon bob amser. Bydd
sgiliau amlieithog yn fantais fawr os ydych am
ddilyn gyrfa mewn addysg gynradd, uwchradd,
bellach ac uwch. Gellir derbyn hyfforddiant
athrawon yn Gymraeg sy'n cynnig cyfleoedd
allweddol i flaenoriaethu'r Gymraeg.
Y Sector Cyhoeddus
Mae gwasanaethau brys bob amser yn recriwtio,
eto bydd sgiliau dwyieithog cryf yn fanteisiol.
Mae angen amrywiaeth eang o sgiliau ar
awdurdodau lleol, y galw ar hyn o bryd yw
dadansoddwyr, rolau mewnwelediad data a rolau
digidol, rheoli, crefftau medrus, cyfathrebu.





























































   19   20   21   22   23