Page 22 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 22
Eich Opsiynau
Twf Swyddi Cymru+
Gall gadael yr ysgol heb syniad clir o'r hyn rydych chi am ei
wneud fod yn llethol iawn. Os mai dyma sut rydych chi'n
teimlo, mae help ar gael i chi!
Os ydych chi'n 16 – 19 oed ac yn chwilio am y cam cywir
nesaf o ran addysg neu fyd gwaith, gall Twf Swyddi
Cymru+ eich cefnogi i gyrraedd yno. Mae'n ffordd wych o
roi hwb i'ch hyder, datblygu eich sgiliau ac ennill profiad
trwy gael blas ar waith mewn maes y gallai fod gennych
ddiddordeb. Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig mynediad
at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl
gyda chyflogwyr yn eich ardal chi. Mae'r rhaglen yn hyblyg
ac wedi'i chynllunio o'ch cwmpas chi, sy'n golygu ei bod
yn opsiwn gwych waeth beth fo'r lefel o gefnogaeth sydd ei
angen arnoch.
Addysg (Safon Uwch, BTEC neu
gymwysterau Lefel 3 eraill)
P'un a ydych am barhau â'ch
astudiaethau yn y chweched dosbarth
neu yn y coleg, mae'r ddau fel arfer yn
cynnig mynediad at gymwysterau Safon
Uwch neu BTEC (er y gall hyn amrywio yn
dibynnu ar y sefydliad).
Mae astudio Safon Uwch, BTEC neu
unrhyw gymhwyster cyfatebol arall yn
ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth
a datblygu eich sgiliau, gan eich galluogi i
wella eich annibyniaeth a'ch cymhelliant.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn swyddi sy'n
cynnwys cymwysterau cydnabyddedig. Rydych chi'n
ennill cyflog tra byddwch chi'n gweithio ac yn dysgu.
Mae prentisiaethau ar gael ar draws pynciau amrywiol a
swyddi
✓ Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
✓ Busnes a gweinyddu
✓ Adeiladu
✓ Y Diwydiannau Creadigol
✓ Peirianneg
✓ Gwasanaethau ariannol a chyfreithiol
✓ Iechyd a gofal cymdeithasol
✓ Technolegau Digidol TGCh
✓ Cerbydau modur
✓ Manwerthu, gwasanaethau cwsmeriaid a gwerthu
✓ Twristiaeth, lletygarwch a hamdden
✓ Trafnidiaeth a logisteg
Addysg Uwch – Prifysgol
Bydd mynd i addysg uwch yn rhoi cyfle
i chi astudio pwnc o'ch dewis a
chynyddu eich gwybodaeth. Mae
mynd i'r brifysgol nid yn unig yn ffordd
wych o wella eich sgiliau, ond mae
hefyd yn rhoi cyfle i chi adeiladu
sgiliau bywyd hanfodol wrth i chi
ennill annibyniaeth. Mae astudio yn y
brifysgol yn eich galluogi i wella eich
cyfathrebu, magu hyder a dysgu i reoli
eich amser, pob un ohonynt yn sgiliau
craidd pan fyddwch chi'n mynd i'r
gweithle.
Gradd-brentisiaethau
Mae gradd-brentisiaethau yn brentisiaethau lefel
6 a dyma'r brentisiaeth lefel uchaf y gallwch ei
chwblhau yng Nghymru. Gallwch gwblhau gradd-
brentisiaeth mewn maes Digidol/TGCh,
Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
Carbon Isel, Effeithlonrwydd a Chynaliadwyedd,
Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r rhaglenni hyn yn darparu llwybr dysgu
amgen yn hytrach na gradd ac yn seiliedig ar
waith. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn
derbyn gradd prifysgol lawn gan un o'n
prifysgolion rhanbarthol. Mae cymhwyso sgiliau a
gwybodaeth a ddysgwyd yn y gweithle yn elfen
allweddol o radd-brentisiaeth.
Cyflogaeth
Nid yw'r byd academaidd i bawb – efallai y byddai'n well
gennych chwilio am waith ar ôl i chi gwblhau eich
cymhwyster presennol.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i ysgrifennu eich CV,
ffurflenni cais a datganiadau personol. Gallant hefyd
eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau neu ddod o hyd i
gyflogwyr sy'n recriwtio.
Hunangyflogaeth / Entrepreneur
Oes gennych chi syniad busnes a allai fod yn
llwyddiannus? Yr agwedd gywir yw'r cam cyntaf i
ddod yn entrepreneur! Os ydych chi'n llawn
cymhelliant, yn wydn ac yn barod i weithio'n
galed, efallai bod gennych chi yr hyn sydd ei
angen i fod yn fos ar eich hun.
Gyda'r help cywir a rhywfaint o hunan-gred, pwy
a ŵyr ble y gallai eich syniadau fynd â chi.
Beth yw
Prentisiaeth? |
Careers Wales
Cael Swydd | Gyrfa Cymru
Yn ystyried dechrau busnes? | Busnes Cymru
Cymru’n Gweithio | Twf Swyddi Cymru Plws