Page 2 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 2
Lein Calon Cymru
Rheilffordd wledig 121 milltir o hyd
sy’n mynd drwy rhai o ardaloedd
cefn gwlad harddaf Cymru wrth
iddi deithio ar ei chyflymder ei hun
rhwng Amwythig ac Abertawe.
Mae’r lein yn croesi pedair sir: Sir Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin
ac Abertawe. Wrth deithio ar hyd y lein, byddwch yn siŵr o ryfeddu at
harddwch y dirwedd arw, y pentrefi tawel, y trefi ffynhonnau prydferth
a’r golygfeydd sydd ymhlith y gorau ar unrhyw reilffordd yn y Deyrnas
Unedig. Yn wir, cafodd ei henwi yn un o’r 19 Taith Trên Orau yn y Byd
yn 2025 gan gylchgrawn National Geographic.
© Dominic Vacher

