Page 4 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 4

Llwybr Lein Calon Cymru
Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn llwybr cerdded pellter hir gwych sy’n
dilyn yr holl orsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru.
Mae’r Llwybr yn cynnwys llwybrau cerdded sy’n cysylltu â gorsafoedd y lein,
gan alluogi cerddwyr i ddefnyddio’r trên wrth iddynt grwydro rhannau
gwahanol o’r llwybr, o dref reilffordd hanesyddol Craven Arms yn y gogledd
i dref arfordirol Llanelli yn ne Cymru.
Mae Llwybr Lein Calon Cymru hefyd yn cysylltu â sawl llwybr cerdded
adnabyddus arall, fel The Shropshire Way, Llwybr Clawdd Offa, Ffordd y
Bannau, a Llwybr Arfordir Cenedlaethol Cymru. Gan fod y llwybr yn dilyn y
rheilffordd mae’n hawdd iawn cwblhau teithiau cerdded byrrach neu drefnu
diwrnod allan gan ddefnyddio’r gwasanaeth trên, felly mae’n cynnig llawer
o hyblygrwydd i gerddwyr o bob lefel.
2
© Mark Revitt Photography




















































































   2   3   4   5   6