Page 3 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 3
Ar hyd y daith, bydd cyfle i chi fwynhau golygfeydd godidog gan gynnwys
aber afon Llwchwr ger Llanelli, afon droellog Tywi, nifer mawr o farcutiaid coch,
eangderau Mynydd Epynt ger Llanwrtyd, Fforest Clud rhwng Llandrindod a
Threfyclo, a thiroedd anghysbell y Gororau.
Dechreuodd y rheilffordd fel cyfres o draciau cymharol digyswllt yn ystod oes
aur canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn bennaf er mwyn cludo nwyddau
i’r boblogaeth wledig. Pan ddaeth ‘yfed o’r ffynhonnau’ yn ffasiynol ar ddiwedd
oes Fictoria, daeth y rheilffordd yn hollbwysig wrth gario ymwelwyr i’r pedair
tref ffynnon ar hyd y lein – y ‘Pedair Ffynnon’. Mae twf cyflym iawn y trefi hyn,
a sbardunwyd gan y rheilffyrdd, yn amlwg hyd heddiw.
Yn ffodus iawn, llwyddodd y rheilffordd i osgoi ‘bwyell Beeching’ yn yr 1960au.
Yn ôl yn sôn, roedd hyn oherwydd bod y lein yn mynd drwy pedair etholaeth
ymylol yn ystod cyfnod o seneddau crog ac etholiadau cystadleuol iawn.
1
© Dominic Vacher

