Page 56 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 56

 56
 3.5 Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
Mae'r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn rhan o'r economi yng Nghymru sy'n tyfu'n gyflym. Mae ganddo weithlu sy'n ffynnu, arbenigedd mewn rheoli data, a seilwaith a chysylltedd band eang rhagorol, yn ogystal â chostau swyddfa cystadleuol.59
Mae 30,586 o swyddi yn y sector ledled rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru, a rhagamcenir y bydd hyn yn tyfu 1.3% dros y tair blynedd nesaf.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y swyddi canlynol:
• Clerciaid swyddfeydd post a banciau (929)
• Swyddi gweinyddol eraill (908)
• Rheolwyr eiddo, tai ac ystadau (743)
• Swyddogion adnoddau dynol a chydberthnasau diwydiannol (743
Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
Sir Maint y Busnes
Micro Bach Canolig
Cyfanswm
       Mawr53
       Ceredigion 4 0 0 0 4 Powys 21115 Sir Benfro 7 2     2   0 11 Sir Gaerfyrddin 15     3   1   0 19 Abertawe 3 5     4   1 13 Castell-nedd Port Talbot 2     0   0   0 2 Arall 30115 Cyfanswm 36     11   9   3 59
Heriau
Sicrhau gwaith yw'r her fwyaf sylweddol i lawer o fusnesau sy'n gweithredu yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, fel y'i nodwyd gan 54% o'r ymatebwyr. Dilynwyd hyn yn agos gan fiwrocratiaeth a deddfwriaeth (52%) a heriau economaidd ac ariannol (34%). .
Y Gweithlu
Mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod y bwlch rhwng y rhywiau yng ngweithlu'r sector hwn yn weddol gytbwys, gyda 47.1% o gyfanswm y gweithlu'n fenywod. Mae'r rhan fwyaf rhwng 25 a 34 oed.
                        59 https://tradeandinvest.wales/key-industries/financial-professional-services
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector














































































   54   55   56   57   58