Page 58 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 58

 58
 Recriwtio
Dywedodd 17 o ymatebwyr eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Y rolau mwyaf cyffredin y nodwyd eu bod yn anodd recriwtio ar eu cyfer yw:
• Rolau cynghori a datblygu busnes
• Rolau cyfreithiol
• Graddedigion gwerthu
• Cyfrifyddion
• Rolau'r gyflogres a chadw cyfrifon
• Rolau archwilio
• Penseiri
Cyhoeddwyd 13,620 o hysbysebion swyddi unigryw sy'n ymwneud â'r sector rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019. Canolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer y rolau hyn oedd 26 o ddiwrnodau, sy'n gyson â chanolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer yr holl swyddi a chwmnïau eraill yn y rhanbarth.
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Nid yw mwyafrif (78%) yr ymatebwyr yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Mae'r rheiny sy'n wynebu rhwystrau'n nodi rhwystrau tebyg â sectorau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Diffyg cyllid ar gyfer yr hyfforddiant
• Methu â neilltuo amser staff
• Diffyg darparwyr hyfforddiant lleol da
• Methu â dod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy'n gallu darparu hyfforddiant ar adeg sy'n gyfleus iddynt
• Anodd neilltuo amser i drefnu'r hyfforddiant
Prentisiaethau
Fel sy'n amlwg o sectorau eraill, nid yw mwyafrif (76%) yr ymatebwyr yn cyflogi prentisiaid. Y rheswm pennaf dros hynny oedd fframweithiau prentisiaeth yn methu â diwallu anghenion eu busnes.
Mae'n amlwg fod angen hyrwyddo'r gwerth ychwanegol y gallai prentisiaethau ei gyfrannu at sector fel hyn yn well. Yn ogystal â hynny, mae sicrhau bod cyflogwyr yn teimlo y gallant gyfrannu at y broses o ddatblygu fframweithiau'n hanfodol a bydd y Bartneriaeth yn hybu hyn.
Brexit
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr na fydd Brexit yn cael unrhyw effaith ar eu busnes. Colli busnes a chaffael a chyllid yw prif ystyriaethau'r rheiny a oedd yn credu y byddai Brexit yn cael effaith arnynt.
Blaenoriaeth
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi’n diwallu anghenion cyflogwyr.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector









































































   56   57   58   59   60