Page 57 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 57

 Parodrwydd am Waith
Dywedodd 39% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo bod problem o ran parodrwydd am waith rhai o'r gweithwyr newydd yn eu busnes/diwydiant. Yn yr un modd, dywedodd y mwyafrif mai'r broblem fwyaf yw diffyg profiad gwaith y gweithwyr newydd hyn. Dilynwyd hyn gan ddiffyg sgiliau dymunol a gweithwyr newydd yn dangos agwedd wael a lefel cymhelliant wael.
Heriau o ran Sgiliau
Er cadarnhaol yw'r ffaith nad yw mwyafrif yr ymatebwyr yn wynebu heriau o ran sgiliau, nid hynny yw'r achos i 41%. Mae mwyafrif yr heriau hyn o ran sgiliau'n bodoli mewn swyddi proffesiynol, a dilynwyd hyn gan weithwyr proffesiynol cysylltiedig a swyddi technegol a swyddi gweinyddol ac ysgrifenyddol.
Pan ofynnwyd i ddiffinio'r heriau hyn o ran sgiliau, gwybodaeth a sgiliau arbenigol i gyflawni'r rôl (46%), sgiliau TG uwch neu arbenigol (29%) a sgiliau entrepreneuraidd (29%) oedd y rheiny yr oedd eu hangen fwyaf ar yr ymatebwyr.
Mae dadansoddiad60 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
57
   Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Gwerthiannau Rheolaeth
Cyfathrebu
Gwasanaeth cwsmeriaid Cyllid
Gweinyddiaeth Recriwtio Hyfforddiant
Cyfrifyddu
Technoleg gwybodaeth
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Llythrennedd Gwrando
Arwain Arweinyddiaeth Rheoli prosiectau Moeseg
Cydlynu Cadernid Datblygu gyrfa
                     60 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector















































































   55   56   57   58   59