Page 59 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 59

 Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o'r ffordd rydym yn gweithio ac yn byw ac yn elfen hollbwysig o'r economi sylfaenol. Mae'r sector o dan bwysau sylweddol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, gofynion gofal plant, ffyrdd o fyw sy'n newid, disgwyliadau'r cyhoedd, a thechnolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r ffaith fod pobl, yn gyffredinol, yn byw'n hwy ag anghenion gofal niferus a chymhleth, ynghyd â lleihad yn y staff iechyd a gofal cymdeithasol profiadol i'w cefnogi, yn peri mwy o broblemau.
Mae gan y sector 56,206 o swyddi amser llawn a rhan-amser yn y rhanbarth, sef 14% uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol. Ni ddisgwylir unrhyw newid i'r rhanbarth o ran twf gan fod y data'n dangos rhagamcaniadau segur, er y disgwylir twf cenedlaethol o 1.6%. Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y sectorau canlynol:
• Gweithwyr gofal a gofalwyr cartref (10,957)
• Nyrsys (8,937)
• Gweithwyr cymorth gofal iechyd (4,228)
• Ymarferwyr meddygol (3,447)
• Glanhawyr a gweithwyr domestig (1,499)
Rhagamcanwyd mai £1.2 biliwn oedd y gwerth ychwanegol gros ar gyfer y sector gofal cymdeithasol i oedolion, sef 1.9% o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru. Lefel gyfartalog y cynyrchioldeb ar gyfer yr un cyfnod amser oedd £18,700 a rhagamcanwyd mai £16,900 oedd yr enillion cyfartalog yn y sector.61
At hynny, rhagamcanwyd mai 126,800 o swyddi (93,600 o swyddi cyfwerth ag amser llawn) a £2.2 biliwn oedd cyfanswm gwerth uniongyrchol, anuniongyrchol ac ysgogedig y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.62
59
 3.6 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
 Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
   Sir Maint y Busnes
Micro
Ceredigion 8
Powys 42107 Sir Benfro 8     8 5     5 26 Sir Gaerfyrddin 3     275     338 Abertawe 6     9 5     2 22 Castell-nedd Port Talbot 2     21     38 Arall 11057 Cyfanswm 32     53   19   23 127
61 https://socialcare.wales/cms_assets/file-uploads/The-Economic-Value-of-the-Adult-Social-Care-Sector_Wales.pdf
62 https://socialcare.wales/cms_assets/file-uploads/The-Economic-Value-of-the-Adult-Social-Care-Sector_Wales.pdf
Cyfanswm
    Bach Canolig Mawr
    4 2     5 19
                      Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector













































































   57   58   59   60   61