Page 60 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 60

 60
 Heriau
Ymhlith y prif heriau a nodwyd gan fusnesau sy'n gweithredu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth mae heriau ariannol (60%), recriwtio (50%) a chreu elw (40%). Mae'r rhain yn gyson â chanfyddiadau'r ymgynghoriad blaenorol.
Y Gweithlu
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y rhan fwyaf o'r gweithlu yn fenywod a rhwng 45 a 54 oed. Mae hyn yn cynrychioli'r brif dystiolaeth a gasglwyd gan y Bartneriaeth, lle dywedodd 63% o'r ymatebwyr fod y rhan fwyaf o'u gweithlu'n fenywod.
Gallai canfyddiad negyddol rhai o’r sector fod yn ffactor sy'n cyfrannu at hyn. Dywedodd 27% o'r ymatebwyr fod y safbwynt ar y sector yn her, sydd, wrth gwrs, yn ymwneud yn uniongyrchol â recriwtio.
Ymhlith y safbwyntiau negyddol, mae:
• Cyflogau isel
• Oriau anghymdeithasol hir
• Diffyg gwerthfawrogiad
• Hyfforddiant dwys
• Canfyddiad ei fod yn broffesiwn i fenywod
Mae'r sector gofal o dan bwysau cynyddol, a allai arwain at ddiffygion o 718,000 o weithwyr gofal erbyn 2025, felly mae'n bwysig fod y sector yn denu pawb, gan gynnwys dynion. Mae canfyddiad cymdeithasol wedi tynnu'r sylw oddi ar y gwerthoedd craidd sydd wrth wraidd iechyd a gofal, sef urddas, cydymdeimlad, dewis a pharch. Mae'r rhain yr un mor berthnasol i ddynion ag i fenywod.
Ond mae'n amlwg fod angen hyrwyddo'r sector yn fwy eang, gan dynnu sylw at ei nodweddion cadarnhaol:
• Amrywiaeth y rolau
• Oriau hyblyg
• Gweithio rhan-amser
• Datblygiad gyrfa
• Cyfleoedd i hyfforddi
• Sgiliau trosglwyddadwy
Ystyrir gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy'n heneiddio yn ffactor hanfodol, gyda chyfradd uchel o wei- thwyr yn gadael neu'n ymddeol, ac mae nifer y gweithwyr newydd i'r maes er mwyn gwrthbwyso'r colledion o ran staff cymwys a phrofiadol yn gwaethygu'r broblem hon.
Parodrwydd am Waith
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr fod parodrwydd gweithwyr newydd am waith yn ‘amrywio’ (54%), a dywedodd 34% eu bod yn barod am waith. Dywedodd y mwyafrif nad oes gan unigolion y lefel ddymunol o brofiad gwaith, a dilynwyd hyn gan y sgiliau neu gymwysterau dymunol.
Ystyrir profiad yn y gweithle yn hanfodol i'r sector, gan nad yw dulliau traddodiadol o addysgu yn y dosbarth yn rhoi'r lefel ddymunol o gymhwysedd ymarferol i unigolion.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector










































































   58   59   60   61   62