Page 64 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 64

 64
 Y Gweithlu
Mae 29% o'r gweithlu rhwng 16 a 24 oed, sy'n ei gwneud yn weithlu iau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r ffaith fod y sector yn rhoi cyfleoedd mawr eu hangen am swyddi rhan-amser i bobl ifanc sydd, o bosibl, yn dal i fod mewn addysg amser llawn. Er bod hyn yn gadarnhaol mewn rhai ffyrdd, tynnwyd sylw at hyn hefyd fel prob- lem i'r sector, gan atgyfnerthu'r canfyddiad na all y sector ddarparu gyrfa a'i bod dim ond yn gam tuag at bethau eraill. Nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod diffyg cydbwysedd sylweddol rhwng y rhywiau; ar gyfartaledd, caiff ychydig mwy o fenywod eu cyflogi yn y sector na dynion.
Parodrwydd am Waith
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr fod lefel y parodrwydd am waith ymysg gweithwyr newydd naill ai'n amrywio neu nid ydynt yn barod am waith o gwbl. Yn debyg i sectorau eraill, nodwyd nad oes gan y gweithwyr newydd hyn y sgiliau neu'r profiad gwaith dymunol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Dywedodd 49% o'r rheiny a ymatebodd fod gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agwedd neu gymhelliant gwael.
Heriau o ran Sgiliau
Mae 42% o'r ymatebwyr yn wynebu heriau o ran sgiliau. Mae'r rhain fwyaf amlwg mewn swyddi gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid a gellir eu diffinio fel sgiliau cyfathrebu (45%), sgiliau neu wybodaeth arbenigol sydd eu hangen i gyflawni’r rôl (43%) neu sgiliau datrys problemau (27%).
Mae dadansoddiad66 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
   Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Gwerthiannau Rheolaeth
Gwasanaeth cwsmeriaid Gweithredu tai bwyta Diogelwch bwyd
Paratoi bwyd Coginio Rheolaeth Lletygarwch Hylendid
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Arweinyddiaeth Dysgu Llythrennedd Glendid Creadigrwydd Rheoli tîm
Rheoli prosiectau Cydlynu Gwrando Dychymyg
                    66 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


















































































   62   63   64   65   66