Page 65 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 65

 Recriwtio
Dywedodd 47% o'r ymatebwyr eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Dywedodd llawer mai rolau tymhorol a rolau ‘y tu allan i oriau’ oedd y mwyaf heriol eu recriwtio, ac mae hyn yn cyd-fynd yn agos â nifer y busnesau sy'n nodi mai natur dymhorol oedd un o'r heriau mwyaf amlwg iddynt. Ymhlith y rolau mwy penodol a nodwyd mae:
• Cogyddion
• Swyddi gwasanaeth cwsmeriaid
• Staff cegin
• Gwragedd cadw tŷ
• Rolau TG
• Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm
• Hyfforddwyr chwaraeon eithafol
Hysbysebwyd 2,900 o swyddi yn y sector hwn rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019. Roedd 380 o'r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â'r sector twristiaeth a hamdden ac roedd y 2,520 a oedd yn weddill yn perthyn i'r sector lletygarwch. Roedd canolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer y swyddi yn fwy ar gyfer y rheiny yn y sector lletygarwch, sy'n cadarnhau'r dystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth yn nodi bod y sector yn cael heriau o ran recriwtio.67
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Gellir casglu o wybodaeth uniongyrchol y Bartneriaeth fod 39% o'r rheiny a arolygwyd yn y sector yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Mae'n amlwg fod amser yn rhwystr sylweddol rhag hyfforddiant i lawer o fusnesau, gyda 53% yn dweud na allant neilltuo amser staff a 40% pellach yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd neilltuo amser i drefnu'r hyfforddiant. At hynny, dywedodd 46% fod diffyg cyllid ganddynt i hyfforddi neu fod hyfforddiant yn rhy ddrud.
Dywedodd 81% o'r busnesau nad ydynt yn ymwybodol o'r rhaglenni cyllid sydd ar gael iddynt ar gyfer hyfforddiant. Mae angen gwneud mwy o waith gyda'r sector i hyrwyddo unrhyw gyfleoedd hyfforddiant â chymhorthdal neu a gyllidir yn llawn. Dywedodd y rheiny a oedd yn ymwybodol eu bod yn ymwybodol o'r Gronfa Sgiliau ar gyfer y Diwydiant a'r Gronfa Datblygu Sgiliau.
Prentisiaethau
Dywedodd mwyafrif helaeth (82%) y busnesau nad ydynt yn cyflogi prentisiaid. Roedd y rhesymau dros hyn yn niferus, ond y rheswm mwyaf cyffredin (49%) oedd nad yw fframweithiau'n diwallu anghenion y busnes. Dywedodd 26% pellach eu bod yn ansicr ynglŷn â'r broses o ran cynnig prentisiaeth.
Yn sgil hyn, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy o waith o ran cyfeirio busnesau at sefydliadau perthnasol. Bydd hyn yn cynorthwyo â'r gwaith o leddfu'r camddealltwriaeth ynghylch cyflogi prentis a hyrwyddo cyfranogiad cyflogwyr yn y gwaith o ddatblygu fframweithiau ymhellach.
Brexit
Mae ansicrwydd amlwg ynghylch Brexit ac mae hyn yn achosi heriau sylweddol i fusnesau. I'r rheiny sy'n gweithredu yn y sector hwn, mae costau cynyddol yn ystyriaeth sylweddol, a dilynwyd hyn gan anawsterau allforio/mewnforio. Mae'n amlwg fod yr ansicrwydd ynghylch sut y bydd Brexit yn effeithio ar ffigurau ymwelwyr yn destun pryder i'r sector. Yn ogystal â hynny, safbwynt cyffredinol yw bod pobl yn tueddu i wario llai ar ‘ychwanegion’ a ‘delfrydau’ yn ystod hinsawdd o ansicrwydd gwleidyddol.
65
  67 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddata EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector














































































   63   64   65   66   67