Page 66 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 66
66
Ar y llaw arall, mae rhai cyflogwyr yn teimlo y gallai ansicrwydd Brexit arwain at gynnydd yn y tebygolrwydd y bydd pobl Prydain am aros yn y wlad hon i fynd ar wyliau yn hytrach na theithio i wledydd cyfagos yn yr UE, sef y duedd a fu'n flaenorol.
Mae pryder rhai cyflogwyr o ran gweithwyr yn symud o'r rhanbarth dros y ffin i wneud iawn am golli'r gweithlu o dramor yn un dilys. Byddai hyn yn gwaethygu'r heriau o ran recriwtio y mae'r busnesau hyn eisoes yn eu hwynebu.
Blaenoriaeth
Mae angen sicrhau bod gan y rhai sy'n gadael addysg y parodrwydd am waith a sgiliau sylfaenol i wneud cyfraniad dilys at sefydliadau unigol a'r sector yn gyffredinol. Gellir cyflawni hyn drwy wneud profiad gwaith estynedig a sgiliau sylfaenol yn flaenoriaeth yn y cwricwlwm.
3.8 Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r sector gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys y sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a chymorth sy'n hanfodol i'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio. Mae'r rhain yn cynnwys y sector addysg, llywodraeth leol, gwasanaethau brys a byrddau iechyd.
Er bod lefelau cyflogaeth yn y sector cyhoeddus wedi gostwng dros y deng mlynedd diwethaf, mae 108,700 o unigolion o hyd yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yn y rhanbarth, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Yn wahanol i ardaloedd eraill o'r DU, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru'n ennill mwy na'r rheiny a gyflogir yn y sector preifat. Yn 2017-18, roedd yr enillion blynyddol cyfartalog £3,413 yn uwch yn y sector cyhoeddus, ond ledled y DU, roedd yr enillion blynyddol cyfartalog £2,252 yn uwch yn y sector preifat.
Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
Sir Maint y Busnes Cyfanswm
Micro68 Bach Canolig Mawr
Ceredigion 2 2 0 1 5 Powys 01315 Sir Benfro 2 3 0 5 9 Sir Gaerfyrddin 2 3 0 5 10 Abertawe 10089 Castell-nedd Port Talbot 1 0 1 1 3 Arall 11125 Cyfanswm 9 10 5 22 46
68 Mae rhai sefydliadau wedi diffinio eu hunain fel microfusnesau gan eu bod yn endidau llai a chanddynt gylch gwaith penodol o'u sefydliad arweiniol yn y sector cyhoeddus
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector