Page 8 - Winter Newsletter 2022 Welsh
P. 8

.
     Croeso i Wefan Cadwch Gymru’n Daclus ar ei                                                                                Eco-Sgolion:

     Newydd Wedd                                                                                                               Gallwch gael adnoddau am ddim wedi eu dylunio gan ein tîm addysg arbenigol i ysbrydoli a grymuso pobl ifanc
                                                                                                                               i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol. Dewch yn Eco-Ysgol heddiw.


      Mae’n bleser gennym lansio gwefan Cadwch Gymru’n Daclus ar ei newydd wedd – delwedd newydd,
      fodern sydd yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio. Mae’n edrych yn lân ac yn newydd, ond hefyd, os
      ydych yn gwirfoddoli, yn codi arian, yn ysgol neu â diddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, gallwch

      bellach ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano yn gyflymach ac yn haws nag erioed.


      Edrychwch ar rai o’n nodweddion:

      Hyb Caru Cymru:


      Byddwch yn rhan o fudiad #CaruCymru. Lawrlwythwch adnoddau am ddim a chael y wybodaeth ddiwed-
      daraf am ein hymgyrchoedd o Faw Cæn i ddod o hyd i’ch Hybiau Codi Sbwriel lleol. Gallwch hefyd weld a

      darllen ein holl bolisïau a’n hymchwil ar y materion diweddaraf. Os ydych yn græp cymunedol, gwnewch                                                                                                                Cymryd rhan:
      yn siær bod eich manylion cyswllt wedi eu diweddaru ar ein map rhyngweithiol a chysylltwch â ni os nad
      ydynt. Mae’n hawdd cofrestru eich manylion ar-lein.                                                                            Ymunwch a chanfod ein digwyddiadau diweddaraf ar draws Cymru, o #2minutestreetclean i ddiwrnodau
                                                                                                                                   gweithgareddau wedi eu trefnu. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith cadwraeth o Lleoe-
                                                                                                                                 dd Lleol ar Gyfer Natur i brosiect y Goedwig Fechan. Gwnewch gais am y gwobrau diweddaraf fel Gwobrau Y
                                                                                                                                                                                               Faner Werdd a’r Arfordir, yn gyflym ac yn hawdd.






















                                                                                                                               Siopa a rhoi:


                                                                                                                               O siacedi llachar i godwyr sbwriel, gallwch gael yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch yn ein siop newydd sbon,
                                                                                                                               a p’un ai eich bod eisiau rhoi un waith neu’n fisol, gallwch wneud hynny yn gyflym ac yn ddiogel. Diolch i’n
                                                                                                                               cwsmeriaid a’n rhoddwyr, rydym yn gallu parhau gyda’n cenhadaeth am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu
                                                                                                                               amdani ac yn ei mwynhau



                                                                                                                                                                                                                         Ymweld

                                                                                                                                                                                                                         â’r Siop
   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13