Page 12 - Winter Newsletter 2022 Welsh
P. 12

Rydym yn falch o lansio ymgyrch newydd Ardal Ddi-sbwriel                                                          Beth mae angen i fusnes ei wneud?





                  Beth yw Ardal Ddi-sbwriel?                           Beth yw buddion ymuno?                                                                 Bydd angen i fusnes:


                  Fel rhan o Caru Cymru, rydym yn falch o fod yn       • Mae mabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel yn arwydd
                  lansio Ardaloedd Di-sbwriel, cynllun newydd           i’ch cwsmer eich bod yn fusnes cyfrifol sydd yn                             Ofalu am ardal y cytunir arni. Bydd y maint a’r lleoliad
                  sbon wedi ei ddylunio i annog busnesau i gadw         cymryd taflu sbwriel o ddifrif. Byddwn yn rhoi’r                            yn amrywio. Byddwn yn eich helpu i gytuno beth sydd
                  eu cymunedau yn ddi-sbwriel.                          adnoddau i chi i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd                              yn briodol.
                                                                        i’ch statws Ardal Ddi-sbwriel.
                  Mae’r  ymgyrch  yn  estyn  allan  i’n  busnesau
                  ar draws Cymru i fabwysiadu ardal sydd yn            • Gall codi sbwriel drawsnewid ardal yn gyflym,                             Adroddiad misol trwy Epicollect. Bydd rhai busnesau yn
                  lleol iddyn nhw a helpu i’w chadw’n lân trwy          o un sydd yn edrych fel pe bai wedi cael ei                                adrodd ar ddigwyddiad codi sbwriel misol a rhai eraill yn
                  ddigwyddiadau Codi Sbwriel rheolaidd. Gofynnir        hesgeuluso i rywle y gall pobl ymfalchïo ynddi.                            ddyddiol o bosibl.
                  i fusnesau â diddordeb gofrestru eu diddordeb
                  ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus. Y gobaith yw
                  y bydd busnesau o bob math a maint yn cymryd         • Mae  wedi  cael  ei  brofi  bod  rhoi  cyfle  i  staff
                  rhan, o siopau pentref a swyddfeydd preifat i         wirfoddoli yn gwella cynhyrchiant, morâl a                                 Gall busnesau wneud ‘addewid’ gyda’i gilydd er mwyn
                  archfarchnadoedd ac ystadau diwydiannol.              chyfraddau cadw.                                                           gofalu am ‘ardal’ fwy.


                  Fel rhan o’r addewid i ymuno, gofynnir i bob         • Mae cymryd rhan mewn prosiectau y tu allan i’r
                  busnes sydd yn cymryd rhan i adrodd yn rheolaidd      swyddfa yn rhoi cyfle i dimau gysylltu â’i gilydd
                  am fath a maint y sbwriel sydd yn cael ei gasglu      ar lefel gwbl wahanol.
                  gan  ddefnyddio  system  Epicollect.  Y  nod  yw
                  cymuned lanach, harddach, gyda theimlad cryf o       • Gall gwella eu hamgylchedd lleol wella iechyd
                  falchder bro.
                                                                        meddwl staff.

                  Ariannwyd y fenter hon gan Gymunedau Gwledig
                  Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig          • Mae cwsmeriaid a Buddsoddwyr eisiau
                  2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol          amgylchedd glân.
                  Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth
                  Cymru.                                               • Byddech yn ymuno â mudiad Caru Cymru, sef

                                                                        menter fwyaf erioed Cymru i ddileu sbwriel a
                  Beth mae Ardal Ddi-sbwriel                            gwastraff.
                  yn ei gynnwys?


                  Gall busnesau sydd yn ymuno ag Ardal Ddi-                                                                                                    ARDAL DDI-SBWRIEL
                  sbwriel fod ar Stryd Fawr,  Ystâd Ddiwydiannol
                  neu unrhyw beth yn y canol. Yr ‘ardal’ yw’r ardal yr                                                                           CLICIWCH I GOFRESTRU EICH BUSNES HEDDIW
                  ydych yn helpu i ofalu amdani.


                  Rydym     yn    croesawu    busnesau     bach,
                  archfarchnadoedd, siopau a swyddfeydd i ymuno
                  am ein bod yn awyddus i weithio gyda phawb.

                  Gall busnesau wneud ‘addewid’ gyda’i gilydd er
                  mwyn gallu gofalu am ‘ardal’ fwy.

                  Bydd  Cadwch  Gymru’n  Daclus  yn  helpu  i
                  gydlynu amserau a lleoliadau i gynyddu effaith
                  ymdrechion pawb.                                           Morrisons, Y Drenewydd
   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17