Page 2 - Pier Newsletter
P. 2
PIER PRESS
Quarterly Newsletter Second Quarter 2017
SYLWADAU’R CADEIRYDD
Mae’r cyfnod yma’n un cyffrous iawn i’r Ymddiriedolaeth wrth iddi barhau i
weithio ar ei chynlluniau mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy. Rydym wedi symud ymlaen yn bell iawn o’r sefyllfa sur a
gwrthgyferbyniol rhyngom ni a hwy'r un adeg y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n
braf cael trafod dyfodol y Pier mewn awyrgylch positif.
Serch hynny, mae rhai o’r farn ein bod ni’n cydgynllwynio gyda’n gilydd ond
nid felly y mae hi o gwbl.
Mae swyddogion y Cyngor yn cydweithio gyda ni ar ein cynlluniau a hefyd ar ein cynnig am grant gan y Gronfa
Loteri Treftadaeth (HLF). Yn ogystal maent yn trafod gyda ni’r dull o ddatgymalu’r Pier. Nid yw’r datgymaliad yn
berffaith ar hyn ond mae’n rhaid i ni wynebu ffeithiau fod ‘Storm Doris’ a’r un a’i dilynodd wedi difrodi rhannau
o ben atfor y Pier. Fe oedd yn rhaid achub gweddill y Pier rhag mwy o ddifrod a symud yn sydyn i wireddu hyn.
Mae rhai elfennau o’r Pier sydd wedi cael eu difrodi a phob un o’r rhai sydd heb yn cael eu storio’n ofalus.
O safbwynt y rhai sydd wedi difrodi rhaid canfod elfennau o’r un fath, gwead, lliw, maint ac edrychiad a’r
gwreiddiol a’u gosod yn ôl yn yr un lle a’r gwreiddiol wrth adfer y Pier. Dyma pam mae’n bwysig cadw’r rhai sydd
wedi cael eu difrodi hefyd. O safbwynt y rhai sydd yn gyfan bydd yn rhaid i ni eu harchwilio am eu cyflwr, eu
glanhau a’u gosod yn ôl yn eu lleoliadau gwreiddiol.
Mae’r Ymddiriedolaeth mewn sefyllfa glodwiw iawn gyda thîm o arbenigwyr penigamp yn ei hyrwyddo rhai
ohonynt yn ddi-os yn arbenigwyr byd eang yn eu priod faes ac yn gaffaeliad mawr i ni.
Rydym wedi cychwyn trafod gyda HLF a bydd cyfarfod pwysig iawn yn cael ei gynnal rhyngom ni, un o’m
harbenigwyr a chynrychiolwyr y Cyngor a’r HLF. Fe gefais i drafodaeth gyda’r HLF ar ôl i mi gael fy ethol fel
Cadeirydd y flwyddyn ddiwethaf i ddarganfod pam fod ein cynnig diwethaf iddynt wedi methu. Rydym weddi
gweithio ar bob rheswm a roddwyd i mi ac y mae pob un wedi cael ei gyflawni.
Rŵan mae’r gwaith caled yn cychwyn i lwyddo gyda’n cynnig newydd i'r HLF ac i dderbyn y caniatadau adeilad
rhestredig, cynllunio ac eraill!