Page 25 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 25
DYDDIADUR
Mi oedd hi’n oer iawn pan aru ni adael Wigan am
naw o’r gloch bore Sul ond mi oedd hi’n mynd i
fod yn oerach. Mi oedden ni’n mynd i’r Ffactor
Oeri (Chill Factor), Manceinion am barti
penblwydd 8 ein wŷr Joseph.
Am ddeg o’r gloch mi gaethon ni bwts eira i
wisgo dros ein dillad cynnes ac mi gaeth y plant
hŷn hetiau caled hefyd. Wedyn mi aethon nhw
ar ‘donuts’ i lawr bryn a ‘luge’ llithro.
Mi aethon ni â’r plant bach i Mini Moose i chwarae yn yr eira. Mi oedd llawer
o deganau meddal, tŷ iglŵ a drysfa (maze).
Yn anffodus mi wnes i ddilyn Molly, 2, i mewn i’r ddrysfa a mi es i’n sownd yn y
twnel. Mi oedd y plant yn dringo yn fêl i gyd. O’r diwedd daeth fy ngŵr i
achub fi.
Mae gaethon ni lawer o hwyl a mi gaeth Joseph ac ei ffrindiau lawer o hwyl
hefyd.