Page 28 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 28
DYDDIADUR
Wythnos diwetha mi ôn i’n brysur iawn.
Dydd Mercher, ar ôl y dosbarth Cymraeg,
mi es i i Lanelwy a dychwelyd pump pâr
o esgidiau. Mi brynes i un pâr o esgidiau
yn eu lle.
Dydd Iau mi es i Haworth – ficerdy’r
teulu Bronte ac mi weles i’r
amgueddfa. Wedyn aeth y bws â ni i
Saltaire ond mi oedd y bws ar goll a
doedden ni ddim yn hir yn y felin.
Serch hynny, mi weles i’r arddangosfa David Hockney. Roedd y tywydd yn
lawog ac yn oer. Roedd y daith yn hir achos roedd y traffig yn ddrwg – mi ôn i
wedi blino.