Page 32 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 32

Sgwrs efo Siôn Corn

Ôn i yn y dafarn neithiwr

Nes i gyfarfod hen ffrind, Siôn Corn.

Mae o’n hapus iawn, fel arfer, ond neithiwr roedd yn edrych yn drist.

“Be’ sy’n bod?” gofynnes i.

“Dw ‘i ’di blino’n lân,” atebodd o. “Rhaid i
mi ymlacio tipyn bach, cyn y diwrnod
mawr. Faswn i wrth y modd yn mynd a
chael cyrri a sglodion.”

“Faint o ddiwrnodau sy’n tan y Nadolig?”
gofynnes i.

“Dim digon!” atebodd o. “Hefyd dw i wedi anghofio sut i chwerthin,” dwedodd
o.

“Wel, cofiwch,” dwedes i, “Yn ôl fy ffrind, sy’n dioddef o ddiffyg cwsg, dim ond
tair noson o gwsg sydd tan y Nadolig!”

Dechreuodd Siôn Corn chwerthin. “Ho, Ho Ho! … Rŵan ‘te! Rhaid i mi
gyflymu,” meddai fo.

“Dim ots,” atebes i. “Mae gynna i syniad da. Dilynwch fi!”

“Ga i dynnu eich cracer?” gofynnodd o.

(Meddwl cyn siarad!)

“Wrth gwrs,” atebes i.

Es i â fo adref.

Dwi’n breuddwydio am Nadolig gwyn…

   Julie Smith, © 2016
   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37