Page 34 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 34
Dyddiadur 2
Dydd Iau
Yn y bore, mi es i i Fetws y Coed efo fy ngŵr. Am tua deg o’r gloch mi gerddon
ni lwybr serth iawn i Llyn Elsi.
Ar y ffordd i fyny, mi welon ni gwdihŵ fawr yn eistedd
mewn coeden. Mi oedd llawer o adar yn hedfan i lawr
arno fo. Ar ôl ychydig amser, mi wnaeth o droi ei ben
a hedfan i ffwrdd yn araf.
Pan gyrhaeddon ni y Llyn, nid oedd neb yna. Mi oedd yr awyr yn las, mi oedd
hi’n dawel iawn a’r olygfa yn syfrdanol. Roedd yr Wyddfa yn yr eira, ac yn cael
ei goleuo gan yr heulwen.
Dyddiadur 3
Ar ddydd Gwener diwethaf mi es i i Ysbyty Abergele i
gael llawdriniaeth cataract. Mi es i am chwarter i wyth
yn y bore a mi ges i’r llawdriniaeth am hanner awr edi
hanner dydd. Mi ddaru Mark, fy mab, ddod i gymryd mi
adre am ddau o’r gloch ac arhosodd o y nos.
Bore dydd Sadwrn mi ddaeth Lyn, fy merch, draw o
Northwich i aros dros y Sul. Pan ddaru mi gymryd y pad llygad i ffwrdd roedd
o’n rhyfeddol. Mi ddaru mi weld yn glir iawn. Mi fydda i’n cael llawdriniaeth
yn y llygad arall mewn tair wythnos.
Mi aeth Lyn a fi i’r Eglwys ar fore dydd Sul ac wedyn mi aethon i i weld
Rhiannon, un o fy wyrion. Roedd Rhiannon yn dathlu ei phenblwydd yn un ar
bymtheg.
Mi aeth Lyn a fi allan am bryd o fwyd ar ddydd Llun cyn aeth hi adre.
Ar fore dydd Mawrth mi nes i sgwennu fy nyddiadur yn barod am y Dosbarth
Cymraeg.