Page 39 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 39
gwella!
Elen Ac mae hi’n rhegi trwy’r amser!
Huw O diâr! Roedd ei thad hi yn llongwr. Mae hi wedi dysgu llawer o
eiriau drwg ganddo fo mae’n debyg! Dydy hi ddim yn sylweddoli
ei bod hi’n gwneud!
Elen Mae gynni hi ffefrynnau yn y dosbarth hefyd.
Huw O bechod! Ti ddim yn un ohonyn nhw?
Elen Na, dw i ddim yn cael digon o help gynni hi. Un peth arall – mae
hi’n gwisgo’n flêr.
Huw O diâr. Sgynni hi ddim llawer o ‘ffasiwn sens’. Dw i’n meddwl ei
bod hi’n mynd i siopa am ddillad newydd dros y penwythnos. Mi
wneith hi ddewis ffrog ‘posh’, gobeithio…
Elen Un peth arall eto… Mae hi’n bwyta garlleg cyn dod i’r dosbarth fel
arfer.
Huw O diâr! Falle gwneith hi brynu ‘breath freshner’ pan fydd hi’n
siopa yn y dre.
Mi wna i sôn wrthi.
Elen Rhaid i’r pennaeth wneud rhywbeth am y sefyllfa!
Huw Peidiwch â phoeni. Dw i newydd gofio. Mae hi’n gadael wythnos
nesa, a dweud y gwir. Mi fydda I’n dod fel tiwtor Cymraeg
newydd atoch chi. Dw i ddim yn cymryd dim nosens cofiwch! Dw
i’n diwtor llym ofnadwy ac mi gewch chi lawer o waith cartre gen
i! Ga i ofyn be ydy’ch enw chi?
Elen Ym…. wnes i ddim deud wrthoch chi…?
Marion Henshaw