Page 43 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 43
A. Fyddwn ni ddim yn symud nes cawn ni weld y rheolwr!
Cwyno am gael triniaeth anheg mewn cyfweliad am swydd
(Mae’r ffôn yn canu…)
Tim Bore da. Cyngor Sir Llanllawen… Tim Jones yn siarad. Sut ga i helpu?
Dave Dwi’n siomedig iawn. Dydy hyn ddim yn ddigon da.
Tim Be sy ddim yn ddigon da…? Mae’n ddrwg gen i… Pwy sy’n siarad os
gwelwch yn dda?
Dave Wnaethoch chi ddim rhoi swydd i fi achos bod gen i ben moel!
Tim Aaa! Dave Davies sy’ na ia?
Dave Dwi eisiau ymddiheuriad!
Tim Sori… am beth?
Dave Dwi’n credu eich bod chi’n ragfarnllyd yn erbyn pobl heb wallt!
Tim Nac ydan wir. Dach chi wedi camddeall. Roeddech chi’n gwisgo het yn
y cyfweliad Mr Davies! Dan ni ddim yn bobl ragfarnllyd o gwbl.
Doeddwn i ddim yn gwybod eich bod chi’n foel!
Dave Bydda i’n cysylltu â fy nghyfreithiwr! Mi wnes i brynu siwt newydd i’r
cyfweliad a phopeth! Dw i isio fy mhres yn nôl ar unwaith!
Tim Mae croeso i chi ysgrifennu llythyr at yr Adran Bersonel. Mi wnân nhw
ddelio efo’r peth.
Rhaid i mi roi’r ffôn i lawr. Mae gen i gyfarfod pwysig y pnawn ma.
Dave Dw i ddim yn hapus o gwbl! Mi fydda i’n anfon llythyr i mewn i’r Cyngor
heddiw. Tan tro nesa Mr Jones…