Page 42 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 42
Michael Lisin
Cwyno am berfformiad sâl yn yr Opera
Aelod anfodlon o’r gynulleidfa (A):
Esgusodwch fi ond dw i isio cwyno am y
perfformiad heno. Dan ni ddim yn hapus o gwbl!
Dyn neu ddynes ar y ddesg tocynnau (B):
O, allech chi’n dweud wrtha i pam yn union, ‘te?
A. …. a deud y gwir dan ni’n flin, iawn iawn! (yn llais swnllyd)
B. Mae’n wir ddrwg gen i glywed hynny ….
A. Mi brynes i docynnau am y seddau gorau am y perfformiad heno fisoedd
yn ôl. Dan ni wedi bod yn edrych ymlaen at wrando ar Bronwen Evans yn
La Bohême.
B. Wrth gwrs, dw i’n deall. Mae hi’n ardderchog! Ond beth oedd y brobl ….
A. Wel doedd hi ddim yn ardderchog heno, yn fy marn i! A roedden ni
wedi prynu dillad newydd a bwcio gwesty! Dydy hyn ddim yn ddigon da!!
B. Doeddech chi ddim yn medru dilyn y perfformiad yn iawn? Doeddech
chi ddim wedi mwynhau perfformiad Bronwen? Roedd pawb yn
canmol ei pherfformiad wrth adael!
A. Dw i’m yn gallu credu hynny. Roedd hi’n canu yn fflat. Roedd hi’n
ofnadwy wir! Wnaeth hi ddifetha’r holl noson; roedd rhaid i ni
ddifodd ein peiriannau clywed yn y diwedd!
B. Mae’n wir ddrwg gen i. Be’ dach chi meddwl mod i’n gallu gwneud?
A. Yn gynta, dan ni am hawlio ad-daliad yn syth! Ar unwaith! Dyma
’ngherdyn credyd! Dan ni’n mynnu!
B. Wel, dw ..
A. Ac wedyn dan ni isio tocynnau am ddim am y perfformiad
nesa heb Bronwen Evans. Os byddwch chi’n gwrthod, awn ni i’r wasg!
B. Arhoswch funud, os gwelwch yn dda. Rhaid i mi siarad â’r rheolwr..