Page 38 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 38
Cwrs Uwch – Nos Lun, Llysfasi
Cwyno - Mae’r ddeailog hon yn un gwbl ddychmygol!
Huw Bore da – Popeth Cymraeg. Huw sy’n siarad. Ga i’ch helpu chi?
Elen Gobeithio. Elen Morris yma. Dw i isio cywno am Gladys, fy
nhiwtor Cymraeg. Mae hi’n ofnadwy!
Huw O bechod! – Mae hi’n diwtor newydd.
Dw _i’n gwybod ei bod hi’n trio yn
galed iawn i fod yn well…
Elen Mae hi’n dod i mewn i’r dosbarth yn chwil!
Huw O diâr! Mae hi’n hoffi ei gwin coch, mae’n wir…
Elen Dydy hi ddim yn gwybod dim byd am ramadeg!
Huw O bechod. Mae hi’n mynd ar gyrsiau Cymraeg i diwtoriaid bob
wythnos i ddysgu mwy am ramadeg. Dw i’n siŵr ei bod hi’n