Page 27 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 27

DYDDIADUR

Dydd Iau Yn anffodus dw i ddim wedi
gwneud dim byd diddorol heddiw, dim ond
gwaith tŷ achos dw i’n mynd i Gaer yfory efo
Mandy, fy merch yng nghyfraith, a dw i’n
cyfarfod fy merch Lynda yn Llandudnno ar
ddydd Sadwrn. Brynes i sugnydd llwch
newydd yr wythnos diwetha ac mae o’n grêt
ar y grisiau.
Dydd Gwener Newid cynllun heddiw. Ges i neges destun gan Mandy y
bore’ma. Dydi hi ddim yn rhy dda, felly dim Caer. Es i i’r fferyllfa i godi fy
mhrescripsiwn . Pan on i yna mi welais i Lyn o’r Dosbarth Cymraeg. Gobeithio
fydd Lynda yn iawn yfory i fynd i Landudno.
Dydd Sadwrn – Hwrê – mae Lynda’n iawn. Wnaeth hi deithio o Northwich i
weld teulu yng Nghyffordd Llandudno. nes i fynd i Landudno ar y bws. Ar ôl ei
chyfarfod wnaeth Lynda ymuno efo fi. Aethon ni’n syth am goffi Costa a
byrbryd a sgwrs wrth gwrs. Roedd Llandudno yn brysur iawn. Roedd Ffair
Nadolig yna! Mi brynais i siwmper werddo siop Roman. Ges i docyn anrheg i’w
wario.
Dydd Sul Does gen i ddim lifft y bore’ma i fynd i’r Eglwys, felly nes i ddechrau
ysgrifennu fy nghardiau Nadolig.
Dydd Llun – Roedd y tywydd wedi bod yn ofnadwy heddiw felly nes i ddim
mynd allan.
Dydd Mawrth Roedden ni’n meddwl mynd i’r Scala i weld ‘A Street Cat named
Bob’ ‘prynhawn’ma ond dydi o ddim ymlaen. Yn lle wnaethon ni weld J.K.
Rowling’s Fantastic Beasts and Where to Find Them. Roedd o’n wych.
   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32