Page 23 - Eco-Schools Wales Newsletter, Spring 1 2023 - welsh
P. 23

Eco-Sgolion Rhyngwladol:

        Roedd Ysgol Feithrin Mezmalina yn Latvia yn rhan o brosiect rhyngwladol
        a oedd yn ymwneud â chynnal Adolygiad Amgylcheddol am fwyd. Roedd y

        prosiect wedi ymchwilio i gantîn yr ysgol yn ogystal â chartrefi’r disgyblion.

        Edrychon nhw ar ymddygiad y teuluoedd yn eu cartrefi, er enghraifft o

        ble roedd y teuluoedd yn cael eu bwyd, beth oedd teuluoedd yn ei fwyta
        adref, gallu plant i goginio a sut oedd gwastraff bwyd yn cael ei drin ac yn

                                                       y blaen.



        O ganlyniad datblygon nhw gynllun i drefnu marchnad werdd unwaith

        bob dau fis, lle cafodd y plant, y rhieni a staff yr ysgol gyfle i gwrdd â

        chynhyrchwyr lleol, blasu a phrynu eu cynnyrch bwyd a deall o ble mae

        bwyd yn dod a’r hyn sydd ei angen i’w gynhyrchu. Gallwch chi ddarllen
                                           mwy am y prosiect yma.
   18   19   20   21   22   23   24   25