Page 20 - Eco-Schools Wales Newsletter, Spring 1 2023 - welsh
P. 20
Cael eich Ysbrydoli
Beth mae Eco-Sgolion wedi bod yn ei wneud
Gwnaeth Ysgol Cae’r Felin, Sir Gâr brosiect ysgol gyfan i leihau gwastraff
bwyd amser cinio.
Ar y dechrau, roedd pob dosbarth wedi cynnal trafodaeth a chafodd yr
ysgol gyfan wasanaeth ar bwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd. Monitrodd
yr Eco-Bwyllgor sut oedd hyn wedi effeithio ar wastraff bwyd ac roedden
nhw wrth eu boddau i weld y ffigwr yn cwympo o 24.3kg ym mis Tachwedd
i 12.7kg erbyn mis Ionawr 2022.
Nawr mae pawb yn helpu i leihau gwastraff bwyd drwy geisio clirio eu
platiau neu arbrofi gyda bwydydd newydd neu fwydydd gwahanol. Mae
plant sy’n cael pecynnau bwyd yn gallu helpu i gyfrannu at y llwyddiant
hwn drwy ddod â dim ond y bwyd sydd ei angen. Mae’r rhain i gyd yn
helpu i haneru faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu.

