Page 22 - Eco-Schools Wales Newsletter, Spring 1 2023 - welsh
P. 22
Roedd gan Ysgol Gynradd
Cadoxton, Bro Morgannwg
gynllun uchelgeisiol i fynd
i’r afael â thlodi bwyd,
gwastraff bwyd a chefnogi
plant mewn dod yn
llythrennog mewn bwyd.
Gan ddechrau gyda
bwyd dros ben o
archfarchnadoedd lleol a gafodd ei roi i’r ysgol, mae wedi tyfu i fod
yn adnodd gwych i’r gymuned gan ddarparu dull ‘talu fel y gallwch
chi’ er mwyn i deuluoedd gael bwyd maethlon am bris teg a allai
fel arall fynd yn wastraff.
Mae’r siop yn cael ei rhedeg gan ddisgyblion a gwirfoddolwyr
ymysg y rhieni o gynhwysydd llong o’r enw’r Big Bocs Bwyd. Mae’r
cynhwysydd llong wedi’i drawsnewid yn wych ar gyfer y prosiect
hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Ysgol.