Page 10 - Autumn 2 2024 Welsh
P. 10
Rheolwr Addysg a Swyddog Addysg
Tim: Wrecsam
Mae gen i lawer o hoff goed, ond rwy’n gweld
hon ar fy stryd bob dydd. Derwen fawr yw hi
ac mae’n hŷn nag unrhyw beth o’i chwmpas
– unrhyw ffordd, unrhyw adeilad, unrhyw
beth sydd wedi’i wneud gan ddyn. Rwy’n dwlu
dychmygu’r holl newidiadau mae wedi’u gweld
dros amser.
Kylie: Torfaen a Blaenau Gwent
Fy hoff goeden yw’r ysgawen. Dywedir bod
ganddi briodweddau hudol i gadw drygioni i
ffwrdd tra bod yn ddigon gwydn i dyfu unrhyw
le o goetir i dir diffaith. Goeden hynafol yw’r
ysgawen sydd â ffrwythau a blodau persawrus
a gallwch chi eu bwyta os ydyn nhw’n cael eu
paratoi’n gywir.
Laura: Powys
Y Dderwen Nerthol yw fy hoff goeden. Mae
rhywbeth am y ffordd mae’r dail yn tyfu’n faint
llawn, hyd yn oed ar y glasbrennau lleiaf. Mae’n
fy llenwi â llawenydd ac yn fy atgoffa bod pŵer,
posibilrwydd a photensial yn tyfu: hyd yn oed
ar y raddfa leiaf. Dydw i ddim ar fy mhen fy hun,
mae coed derw wedi lledaenu eu gwreiddio drwy
hanes dynol, dywedir bod y Rhufeiniaid hynafol, y
Groegaidd, a’r Derwyddon Celtaidd wedi addoli’r
dderwen. Adlewyrchir hyn yn yr enw Cymraeg am
dderwen sy’n tarddu o’r un tarddiad etymolegol â
derwydd.

