Page 9 - Autumn 2 2024 Welsh
P. 9
Bryony: Rheolwr addysg a Swyddog Addysg Sir Fynwy
Coeden hynafol yw ‘Charlie’ y gastanwydden sydd
ychydig filltiroedd o fy nghartref yng Nglangrwyne.
Rydym fel teulu wedi ymweld â ‘Charlie’ ers oedd y plant
yn fach ac rydym wrth ein boddau’n dweud helo wrth
ein hen ffrind gyda’i ganghennau sy’n ymestyn i’r afon y
mae’n ei warchod. Rydym yn amcangyfrif bod Charlie tua
1,000 oed.
Fran: Merthyr Tydfil a Chaerffili
Fy hoff goeden yw’r ‘Goeden Pum Ffordd’
ym Mharc Margam, gan fod cymaint o
bosibiliadau ar gyfer anturiaethau!
Julie: Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf
Un o’m hoff lefydd yw Gerddi Dyffryn ym Mro
Morgannwg, yn bennaf oherwydd y coed hardd.
Rwyf bob amser yn teimlo’n dda wrth gerdded
drwy’r coetiroedd yno.

