Page 14 - Autumn 2 2024 Welsh
P. 14
Beth mae Cadwch
Gymru’n Daclus yn ei
wneud?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau a
gwirfoddolwyr ar draws Cymru i blannu mwy o goed sy’n cynyddu cynefinoedd ar
gyfer bywyd gwyllt, yn harddu ein tirweddau ac yn darparu cyfleoedd tyfu bwyd i
gymunedau.
Fe wnaethom gyfrif nifer y coed yn ddiweddar ac rydym wrth ein boddau i rannu
bod cyfanswm o 18,759 o goed brodorol wedi’u plannu ar draws ein holl brosiectau
cymunedol dros y pedair blynedd ddiwethaf!
2020/21 5,744
2021/22 4,985
2022/23 3,100
2023/24 4,930
Ydych chi wedi sylwi bod ardal ar diroedd eich ysgol sydd yn addas ar gyfer plannu
coed, creu ardaloedd tyfu bwyd neu gynefin bywyd gwyllt? Edrychwch ar ein
pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy’n rhad ac am ddim ac yn dod gydag amser
aelod o staff Cadwch Gymru’n Daclus i’ch helpu i’w gosod.

