Page 20 - Winter Newsletter 2022 Welsh
P. 20
Ymunwch â ni ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru 2022
Mawrth 25 – Ebrill 10 2022
Y Gwanwyn hwn, rydym yn gofyn i chi helpu i ddiogelu’r amgylchedd, gan fod gweithredoedd bach
ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Rydym yn llawn cyffro yn cyhoeddi y bydd Gwanwyn Glân Cymru, rhan o Gwanwyn Glân Prydain
Fawr gan Keep Britain Tidy, yn cael ei gynnal rhwng 25 Mawrth a 10 Ebrill 2022.
Y llynedd, cynhaliwyd dros 200 o ddigwyddiadau glanhau ar draws Cymru gyda gwirfoddolwyr yn
mynd allan ac yn glanhau cymunedau, gan chwalu ein targed o gerdded miliwn o filltiroedd.
Edrychwn ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi yn fuan iawn ynghylch sut gallwch gymryd
rhan.
Cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch sut i addo, cynllunio a hyrwyddo
digwyddiad glanhau
https://keepwalestidy.cymru/cy/blog/arbedwch-y-dyddiad-gwanwyn-glan-cymru-2022/
keepwalestidy.cymru
#CaruCymru