Page 6 - 2025 Spring 02 Cymraeg (1)
P. 6

Sut gallwn ni helpu i gadw ein dyfrffyrdd yn glir o sbwriel?



      Gwaredwch sbwriel yn iawn

      Defnyddiwch finiau ar gyfer sbwriel bob amser a gwnewch yn
      siŵr eich bod yn ailgylchu eitemau lle bo modd.
      Os ydych mewn ardal lle nad oes biniau, ewch
      â’ch sbwriel gyda chi nes i chi ddod o hyd i un, neu
      ewch ag ef adref. Gall y weithred fach hon atal
      sbwriel rhag chwythu i ddraeniau storm, afonydd                                    “Heb os nac oni bai, mae bodau dynol yn gyfrifol am y llygredd yn
      neu’n uniongyrchol i’r môr.                                                        ein dyfrffyrdd a’n moroedd, ond mae hynny’n golygu ein bod ni
      Efallai y byddwch hefyd am hysbysu eraill am                                       hefyd yn gyfrifol am eu glanhau a’u hamddiffyn.
      bwysigrwydd peidio â defnyddio draeniau storm fel ffordd o gael                    “Yn y byd polisi, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i ymchwilio, casglu
      gwared ar wastraff, neu roi’r gorau i ddefnyddio toiledau i fflysio                tystiolaeth a chefnogi deddfwriaeth i ddiogelu ein hamgylchedd
      unrhyw beth heblaw’r “3 Ps” (Pŵ, Pipi a Phapur!).                                  ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae dŵr yn

                                                                                         cysylltu pob un ohonom (mae dros 70% o’n planed yn ddŵr!) a
      Cymryd rhan mewn sesiynau glanhau lleol                                            gallwn ni i gyd weithredu, cadw’n hamgylchedd mawr neu fach yn
      Ymunwch â digwyddiadau glanhau cymunedol                                           iach.”
      neu trefnwch un eich hun. Mae glanhau parciau,
      traethau a glannau afonydd lleol yn helpu i gael
      gwared ar sbwriel cyn iddo gael cyfle i gyrraedd                                   Angharad James
      ein dyfrffyrdd. Hefyd, mae’n codi ymwybyddiaeth                                    Swyddog Polisi ac Ymchwil
      yn eich cymuned am bwysigrwydd cadw ein                                            Cadwch Gymru’n Daclus
      hamgylchedd yn lân. Daliwch ati i ddarllen am
      fanylion am yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion!



      Lleihau plastigau untro
      Cyfyngwch ar eich defnydd o blastigau untro fel                                     Meddyliwch am
      poteli, bagiau a gwellt, sef rhai o’r mathau mwyaf                                  syniadau arloesol…
      cyffredin o sbwriel sy’n cyrraedd dyfrffyrdd yn y
      pen draw. Dewiswch ddewisiadau eraill y gellir
      eu hailddefnyddio fel poteli dŵr, bagiau am oes a
      chynwysyddion y gellir eu hail-lenwi lle bo modd.
   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11