Page 7 - 2025 Spring 02 Cymraeg (1)
P. 7

Sut gallwn ni helpu i gadw ein dyfrffyrdd yn glir o sbwriel?



 Gwaredwch sbwriel yn iawn

 Defnyddiwch finiau ar gyfer sbwriel bob amser a gwnewch yn
 siŵr eich bod yn ailgylchu eitemau lle bo modd.
 Os ydych mewn ardal lle nad oes biniau, ewch
 â’ch sbwriel gyda chi nes i chi ddod o hyd i un, neu
 ewch ag ef adref. Gall y weithred fach hon atal
 sbwriel rhag chwythu i ddraeniau storm, afonydd   “Heb os nac oni bai, mae bodau dynol yn gyfrifol am y llygredd yn
 neu’n uniongyrchol i’r môr.  ein dyfrffyrdd a’n moroedd, ond mae hynny’n golygu ein bod ni
 Efallai y byddwch hefyd am hysbysu eraill am   hefyd yn gyfrifol am eu glanhau a’u hamddiffyn.
 bwysigrwydd peidio â defnyddio draeniau storm fel ffordd o gael   “Yn y byd polisi, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i ymchwilio, casglu
 gwared ar wastraff, neu roi’r gorau i ddefnyddio toiledau i fflysio   tystiolaeth a chefnogi deddfwriaeth i ddiogelu ein hamgylchedd
 unrhyw beth heblaw’r “3 Ps” (Pŵ, Pipi a Phapur!).  ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae dŵr yn

     cysylltu pob un ohonom (mae dros 70% o’n planed yn ddŵr!) a
 Cymryd rhan mewn sesiynau glanhau lleol  gallwn ni i gyd weithredu, cadw’n hamgylchedd mawr neu fach yn
 Ymunwch â digwyddiadau glanhau cymunedol   iach.”
 neu trefnwch un eich hun. Mae glanhau parciau,
 traethau a glannau afonydd lleol yn helpu i gael
 gwared ar sbwriel cyn iddo gael cyfle i gyrraedd   Angharad James
 ein dyfrffyrdd. Hefyd, mae’n codi ymwybyddiaeth   Swyddog Polisi ac Ymchwil
 yn eich cymuned am bwysigrwydd cadw ein   Cadwch Gymru’n Daclus
 hamgylchedd yn lân. Daliwch ati i ddarllen am
 fanylion am yr Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion!



 Lleihau plastigau untro
 Cyfyngwch ar eich defnydd o blastigau untro fel   Meddyliwch am
 poteli, bagiau a gwellt, sef rhai o’r mathau mwyaf   syniadau arloesol…
 cyffredin o sbwriel sy’n cyrraedd dyfrffyrdd yn y
 pen draw. Dewiswch ddewisiadau eraill y gellir
 eu hailddefnyddio fel poteli dŵr, bagiau am oes a
 chynwysyddion y gellir eu hail-lenwi lle bo modd.
   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12