Page 8 - 2025 Spring 02 Cymraeg (1)
P. 8

Yn cyflwyno, Bin Môr



     Abertawe!







     Mae’r Bin Môr hwn wedi’i osod ym Marina Abertawe fel                                                                 PWMP
                                                                                                                           PUMP
     rhan o arbrawf i helpu i gadw’r marina’n lân ac amddiffyn yr
     amgylchedd morol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn monitro’r
     hyn y mae’r bin yn ei gasglu a’r effaith y mae’n ei gael ar fywyd
     gwyllt.




     Sut mae’n gweithio?

     1. Mae’r Bin Môr yn symud i fyny ac i lawr gyda’r llanw yn casglu
     sbwriel arnofiol.

     2. Mae dŵr yn cael ei sugno i mewn o’r wyneb gan bwmp ac yn
     mynd trwy ‘fag dal’ y tu mewn.

     3. Yna caiff y dŵr ei bwmpio’n ôl allan gan adael y sbwriel a’r
     malurion yn sownd y tu mewn nes y gellir ei waredu.
                                                                                                                                         Ydy’r Bin Môr wedi’ch
                                                                                                                                         ysbrydoli i feddwl

     Gwyliwch y Bin Môr ar waith yma                                                                                                     pa ddatblygiadau
                                                                                                                                         arloesol eraill sy’n
                                                                                                                                         gyfeillgar i’r blaned
                                                                                                                                         sy’n aros i gael eu
       Gall y Bin Môr ddal                                                                                                               creu?
       hyd at 30 litr o

       wastraff, sy’n cael ei                                                                                                            Darllenwch ymlaen
       wagio bob dydd.                                                                                                                   i ddysgu am Her
                                                                                                                                         Hinsawdd Cymru!
   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13