Page 11 - Beth am fynd i'r afael a sbwriel
P. 11
2.3
Sbwriel yn yr ysgol
Mae sbwriel yn cael effaith weledol, felly mae’n hawdd
gweld sut y gall lle chwarae yn llawn pacedi creision,
cynwysyddion diodydd a phapur siocled roi argraff
wael o’r ysgol gyfan. Gall ysgolion â phroblem sbwriel
gael cwynion gan drigolion a busnesau lleol, digalonni
staff a disgyblion, gall ddenu cnofilod a bod yn beryglus
oherwydd gwydr neu ganiau wedi torri ar tir yr ysgol.
Mae gan ysgolion ddyletswydd cyfreithiol i glirio’r
sbwriel a’r gwastraff oddi ar eu tir eu hunain a gall
eu hawdurdod lleol eu gorfodi i lanhau os oes angen.
Gellir cyflwyno Hysbysiad Lleihau Sbwriel i Gadeirydd
Bwrdd y Llywodraethwyr a gellir rhoi dirwyon os nad
yw hynny’n digwydd.
Nid oes gan ysgol, fodd bynnag, unrhyw gyfrifoldeb
cyfreithiol dros glirio sbwriel y tu allan i’w dir.
Dyletswydd yr awdurdod lleol yw glanhau strydoedd a
mannau cyhoeddus eraill.
Os yw eich ysgol yn sylwi bod sbwriel yn cronni mewn
man cyhoeddus gallwch hysbysu eich awdurdod
lleol. Byddwch yn benodol am leoliad, math a maint
y sbwriel. Mae gan rai awdurdodau lleol ‘linellau
cymorth’ sbwriel. Os yw’r sbwriel wedi cronni ar dir
preifat, cysylltwch â’r awdurdod lleol yn gyntaf i weld
pa gymorth y gallant ei ddarparu, er mai cyfrifoldeb
perchennog y tir yw sbwriel sy’n cael ei symud oddi ar
dir preifat.