Page 10 - Beth am fynd i'r afael a sbwriel
P. 10
2.2
Sbwriel a’r gyfraith
Gwnaeth y Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd, a
gyflwynwyd ym 1990, sbwriel yn drosedd, yn destun
dirwy o uchafswm o £2,500. Mae cynghorau lleol ac
unrhyw berchnogion neu feddianwyr tir perthnasol
eraill yn gyfrifol am gadw eu strydoedd yn lân a gellir
eu herlyn am fethu gwneud hynny. Mae’r Ddeddf yn
nodi safonau glendid ar gyfer mannau cyhoeddus.
Mae llawer o awdurdodau lleol yn penodi swyddogion
gorfodi all roi hysbysiadau cosb benodedig yn
dechrau ar £75, i ymdrin â gollwng sbwriel wrth iddo
ddigwydd.
Mae Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd
2005 yn ehangu’r drosedd o ollwng sbwriel. Mae
lleoliadau fel afonydd a nentydd yn cael eu cynnwys,
ac mae gwm cnoi a sigaréts yn cael eu hystyried yn
sbwriel.