Page 5 - Beth am fynd i'r afael a sbwriel
P. 5
1.2
Safbwynt ysgol
Gellir mynd i’r afael â thestun sbwriel pan fydd
ysgolion yn cyflwyno’r cyfrifoldebau llythrennedd,
rhifedd a chymhwysedd digidol traws gwricwlaidd.
Gall targedau rhifedd gael eu llywio trwy gasglu
data bywyd go iawn. Gellir dadansoddi’r data hwn
a’i gyflwyno yn y fath fodd ei fod yn berthnasol i
gymuned yr ysgol gyfan.
Gellir amlygu materion sbwriel trwy brosiectau
celf a’r celfyddydau perfformio. Gall disgyblion
daearyddiaeth adnabod nodweddion eu hardal leol;
deall y ffordd y gall pobl effeithio ar yr amgylchedd a
sut y gallant ei wella. Mae gan ddatblygu gwaith tîm
a chymryd cyfrifoldeb gysylltiadau cryf ag ABCh a
Chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Llywodraeth Cymru
– cwricwlwm ysgol newydd